Owain Roberts
Mae cariad dyn sydd wedi bod ar goll ers bron i fis yn dweud fod y pedair wythnos ddiwethaf wedi bod ymysg yr anoddaf yn ei bywyd.

Gwelwyd Owain Roberts, 36, yn cerdded nid ymhell o’i gartref yn Aberteifi am 11am ar 10 Mawrth.

Roedd ar ei ffordd i weld ei dad mewn eglwys ym Mwnt, ond ni gyrhaeddodd.

Er gwaethaf sawl apêl gyhoeddus, mae beth ddigwyddodd i’r gitarydd yn parhau’n ddirgelwch.

Dywedodd ei gariad Lisa Head, 37, oedd wedi bod mewn perthynas ag Owain ers tair blynedd a hanner, nad ydi hi wedi gallu amgyffred beth sydd wedi digwydd.

“Mae’n anodd dod o hyd i’r geiriau. Rydw i wedi fy fferru ac mewn sioc lwyr am nad ydyn ni’n gwybod beth sydd wedi digwydd,” meddai.

“Mae’r heddlu wedi bod drwy’r ardal â chrib mân a does dim arwydd ei fod wedi cael damwain.

“Y peth gwaethaf yw nad oes yna unrhyw awgrym o beth ddigwyddodd. Rydw i wedi dioddef pedwar wythnos anoddaf fy mywyd.”

Roedd teulu Owain Roberts wedi pryderu ei fod yn dioddef o iselder ond roedd peidio â chysylltu yn “hollol groes i’w gymeriad,” medden nhw.

Roedd Owain Roberts yn gitarydd â band lleol The Reasoning ac yn gweithio yn Theatr Mwldan.

Dywedodd ei deulu ei fod wedi bod yn edrych ymlaen at weld ei chwaer yn fuan cyn iddo ddiflannu.

Mwnt

Wrth siarad â phapur newydd Wales on Sunday, dywedodd Lisa Head ei bod hi wedi derbyn neges llun ganddo ychydig oriau cyn iddo ddiflannu.

“Roeddwn i wedi anfon neges destun ato’r bore hwnnw yn gofyn ble’r oedd o. Awr yn ddiweddarach derbyniais lun o Mwnt, a sws,” meddai.

Dywedodd yr heddlu ei fod yn 5 troedfedd 10 modfedd, â llygaid glaslwyd. Mae ei wallt yn fyr ac wedi britho ar yr ochrau, ac mae gan ei ddant blaen chwith dolc arno.

“Mae’n bosib ei fod wedi tyfu blewiach ar ei wyneb erbyn hyn,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys.

“Y tro diweddaraf iddo gael ei weld roedd yn gwisgo cardigan drwchus o Top Shop â zip ar y ffrynt a hwdi arno.

“Roedd yn cario bag ysgwydd o gynfas llwyd â phwythau oren.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Dyfed Powys ar 01267 222020.