Llonddrylliad Llanddulas (Llun PA)
Bydd y llong sy’n gorwedd ar draeth  Llanddulas gerllaw Bae Colwyn ers y llongddrylliad nos Fawrth yn cael ei thorri’n ddarnau a’i gwaredu fel sgrap.

Fe lwyddodd dau fad achub a hofrenyddion yr Awyrlu i achub ei chriw o saith ar ôl i’r MV Carrier daro’r creigiau yn y tywydd a’r tonnau garw.

Mae’r gwaith o dynnu’r olew o danciau tanwydd y llong yn mynd ymlaen ar hyn o bryd.

Heddiw, cyhoeddodd perchnogion y llong, y cwmni Reederei Erwin Strahlmann o’r Almaen, y bydd y llong yn cael ei sgrapio.

Mewn datganiad, dywed y cwmni:

“Mae asesiad strwythurol o’r MV Carrier wedi dangos difrod mawr ac mae’r llestr wedi cael ei chyhoeddi’n golled lwyr.

“Fe fydd MV Carrier yn cael ei thorri’n ddarnau y gellir eu cludo’n hwylus i’r lan, a bydd y darnau hyn yn cael eu cludo ar y ffyrdd i iard sgrap ddynodedig. Mae disgwyl i’r gwaith yma gymryd tua chwe wythnos, ond bydd yr amseriad yn dibynnu ar ystyriaethau diogelwch a’r tywydd.”