Archesgob Cymru, y Parchedicaf Barry Morgan
Yn ei bregeth yn Eglwys Gadeiriol Llandaf yfory, fe fydd Archesgob Cymru’n galw ar Gristionogion i “godi llais yn erbyn anghyfiawnder a thlodi”.

“Mae a wnelo’r Pasg â newid ein bywyd a newid y byd,” medd y Parchedicaf Barry Morgan. “Rhaid inni rannu gwerthoedd a gofalon Iesu os ydym i rannu yn ei fywyd atgyfodedig.

“Mae’n rhaid inni felly bryderu am bethau fel newyn, rhyfel, trais a thlodi – pethau sy’n difwyno delw Duw ac yn hagru ei fyd – a gwneud rhywbeth ynglŷn â hwy.

“Ym mha ffordd arall y gallwn ni dystio i’r ffaith bod Iesu’n fyw ac mai ei werthoedd ef yw’r unig rai sy’n cyfrif yn y pen draw?”