Llongddrylliad llanddulas (Llun PA)
Bydd ymgais yn cael ei wneud heddiw i dynnu 40,000 litr o olew oddi ar long fasnachol sy’n gorwedd ar greigiau ger Bae Colwyn.

Mae llong y ‘Carrier’ wedi gollwng “ychydig bach” o olew, medd Asiantaeth yr Amgylchedd, ond mae’n ymddangos fod y prif danc olew yn gyfan a heb gael ei ddifrodi.

“Os bydd mwy o olew’n diferu o’r llong, mae’n debygol byddai’n cael ei gyfyngu i ardal fechan rhwng Bae Colwyn a’r Rhyl,” meddai llefarydd ar ran yr Asiantaeth. Ychwanegodd y byddai’r effaith ar yr amgylchedd yn “fychan”.

Mae tri thwll ar ochr dde’r llong yn ôl Gwylwyr y Glannau, ond mae’r ochr chwith, ble mae’r tanc olew, heb ei difrodi.

Roedd y Carrier yn cario llwyth o gerrig a dywedodd Gwylwyr y Glannau fod cynlluniau i dynnu’r olew yn gyntaf, wedyn cludo ymaith y cerrig, ac wedyn symud y llong.

“Ymgyrch anodd iawn”

Ddydd Mawrth roedd dau fad achub yn ogystal â hofrenyddion y Llynges a’r Llu Awyr yn rhan o’r ymgyrch i achub y saith morwr o Wlad Pwyl oedd ar fwrdd y Carrier.

“Roedd hon yn ymgyrch achub anodd iawn gydag amryw o asiantaethau’n gweithio mewn tywydd garw” meddai Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru, Gareth Pritchard.

“Mae pawb wrth eu boddau fod y saith aelod o griw’r llong wedi cael eu hachub yn ddianaf a’u bod nhw’n ddiogel”.

Cafodd heol yr A55 ei chau yn ystod yr ymgyrch achub er mwyn i swyddogion y gwasanaethau brys gael mynediad haws i’r llong 82 medr o hyd, sydd wedi ei chofrestru yn Antigua a Barbuda.

Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi canmol “ymdrechion arwrol” y gwasanaethau brys.

“Mae ymroddiad y gwasanaethau brys yn rhywbeth gallwn ni gyd fod yn falch iawn ohono” meddai.