Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones a’r Gweinidog Busnes Edwina Hart wedi dweud y byddai cael enwau parth lefel uchaf i Gymru – .cymru a .wales – yn gyfle gwych i chwifio baner y wlad ar y map ar-lein.

Bydd cais i gael defnyddio’r enwau parth Cymreig hyn yn cael ei gyflwyno’n swyddogol i’r Internet Corporation for Assigned Names and Numbers (ICANN) yn hwyrach y mis hwn.

Mae hyn yn dilyn penderfyniad llynedd gan y corff sy’n gyfrifol am reoli enwau parth ar y rhyngrwyd i gynyddu’r nifer o derfyniadau posibl.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones y byddai’r enwau parth newydd yn gyfle gwych i Gymru. “Bydd hyn yn sicrhau bod Cymru’n flaengar ar y rhyngrwyd, a’n baner wedi’i gosod ar y map ar-lein,” meddai.

“Bydd modd i ni ddefnyddio’r enwau parth lefel uchaf er mwyn sefydlu presenoldeb cryf ar-lein sy’n adlewyrchu ein hunaniaeth genedlaethol.”

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi ei bod yn hapus i geisiadau Cymru fynd yn eu blaen a bydd Nominet, y swyddfa gofrestru sy’n gyfrifol ar hyn o bryd am reoli’r enwau parth .uk, yn cyflwyno’r ceisiadau yn hwyrach yn y mis.

Ychwanegodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart, “Bydd gan y parthau newydd y potensial i ddod â buddiannau economaidd sylweddol i Gymru. Byddan nhw’n cryfhau hunaniaeth fyd-eang Cymru, yn hyrwyddo twf busnesau ac yn annog pobl i elwa ar dechnoleg ddigidol ar draws pob sector.

”Rydyn ni’n gweithio gyda Nominet i ddatblygu’r cais er mwyn gwneud yn siŵr bod y parth yn cael ei reoli mewn ffordd sy’n gwneud y gorau o’r buddiannau i Gymru.”

Mae disgwyl  i’r parthau newydd cyntaf ddod i rym yn 2013.

Mae Nominet, sy’n rheoli’r enw parth .uk o’u prif swyddfa yn Rhydychen, wedi ymrwymo i sefydlu swyddfa yng Nghymru er mwyn darparu’r enwau parth .cymru a .wales, gan greu hyd at naw o swyddi newydd o bosib.