Edwina Hart
Mae pum parth menter newydd wedi eu creu yng Nghymru heddiw.

Mae’r safleoedd yn Ynys Môn, Caerdydd, Glyn Ebwy, Sain Tathan a Glannau Dyfrdwy oll wedi eu dynodi yn barthau menter yn y gobaith o ddenu a hybu busnesau.

Ychwanegodd y Gweinidog Busnes, Edwina Hart, ei bod hi hefyd yn bwriadu creu dau barth menter arall, un yn Sir Benfro ac un yn Eryri.

Dyma’r parthau menter gyntaf i gael eu creu yng Nghymru ers yr 1980au.

Bydd cwmnïau o fewn y parthau hyn yn elwa o nifer o fanteision treth. Gobaith Llywodraeth Cymru yw y bydd hynny’n annog cwmnïau newydd i ymsefydlu yn y parthau hyn.

Ond dim ond y busnesau sydd ym mharth menter Glannau Dyfrdwy fydd yn cael eu hesgusodi rhag treth ar fuddsoddiadau mewn peiriannau newydd.

Mae Llywodraeth Cymru a’r Deyrnas Unedig mewn trafodaethau ynglŷn ag ymestyn y lwfans treth i’r parthau menter eraill.

Dywedodd y Gweinidog Busnes, Edwina Hart,  bod y trafodaethau â Thrysorlys San Steffan yn parhau.

Bydd parth menter Glannau Dyfrdwy yn canolbwyntio ar weithgynhyrchu uwch, tra bod Ynys Môn yn canolbwyntio ar ynni, Canol Caerdydd yn gobeithio datblygu’n ganolfan ariannol, Glyn Ebwy yn ymestyn ei diwydiant moduron, a Sain Tathan yn datblygu ei diwydiant awyrofod.

Cwyno

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Rodney Berman, ei fod yn croesawu cyflwyno’r cynllun yn y brifddinas.

Byddai creu parth busnes yn helpu’r ddinas i gystadlu yn erbyn dinasoedd Lloegr, meddai.

“Dyma’r unig fodd i greu maes gwastad â dinasoedd gan gynnwys Bryste,” meddai.

Ond mae arweinwyr cynghorau eraill wedi mynegi eu siom nad oes parthau wedi eu creu yn ne-orllewin Cymru.

Byddai Abertawe, Llanelli a Chastell-nedd wedi elwa ar barthau menter o’r fath, medden nhw.

Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, Chris Holley, ei fod yn pryderu y byddai masnachwyr canol dinas Abertawe yn colli rhagor o fusnes i Gaerdydd.