Mae rheolwr cartref gofal yn wynebu disgwyl am bedwar mis cyn i banel meddygol benderfynu a ydi hi wedi camymddwyn.

Mae Marie Eva Lourde Mascarenhas wedi bod yn destun ymchwiliad gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ers dros ddwy flynedd.

Mae hi wedi ei chyhuddo o fethu a darparu gofal digonol ar gyfer dau o gleifion oedrannus yn y cartref gofal y mae hi’n ei gynnal ar y cyd yn Sir Ddinbych.

Er gwaethaf gwrandawiad pedwar diwrnod, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd, dywedodd cadeirydd y panel, Simon Evans, y byddai’r achos yn cael ei ohirio am y tro.

“Doedd dim modd cyrraedd penderfyniad terfynol yr amser a oedd ar gael i ni,” meddai. “Felly bydd rhaid oedi’r panel.”

Mae Marie Eva Lourde Mascarenhas wedi rhedeg Cartref Nyrsio St Chamond ger Prestatyn ar y cyd â’i gŵr ers yr 80au.

Mae’n gofalu am hyd at 16 o drigolion, a rhai ohonynt yn dioddef o ddementia.

Yn 2009 cynhaliwyd ymchwiliad i ofal dau breswylydd oedrannus – a gyfeiriwyd atynt fel Claf A a Chlaf B – oedd wedi dioddef o friwiau gorwedd.

Mae Marie Eva Lourde Mascarenhas yn gwadu iddi ddarparu gofal amhriodol ar gyfer y cleifion.

Ond dywedodd fod angen iddi wneud rhagor i “gydbwyso” ei dyletswyddau, rhwng “gofal unigol ac ysgrifennu cofnodion helaeth”.

Fe fydd y panel yn cwrdd unwaith eto ar ddydd Llun, 2 Gorffennaf.