Rali yn erbyn Wylfa B
Mae ymgyrchwyr yn erbyn Wylfa B wedi dweud eu bod nhw’n croesawu penderfyniad RWE ac E.ON heddiw i beidio â bwrw ymlaen â’u cynlluniau i adeiladu gorsaf niwclear Wylfa B.

Mae grŵp ymgyrchu PAWB wedi bod yn gwrthwynebu datblygu’r orsaf newydd gerllaw’r hen safle gorsaf Wylfa ers deg mlynedd.

Dywedodd Dylan Morgan o’r mudiad mai “ffwlbri llwyr oedd y cynlluniau niwclear ’ma”.

“Maen nhw wedi gwastraffu 10 mlynedd drwy beidio sianelu eu hadnoddau fel hyn i’r cyfeiriadau cywir, sef ynni adnewyddol.

“R’yn ni wedi dadlau ers tro bod cost niwclear yn ei wneud yn gwbl amhosib,” meddai.

Yn ôl Dylan Morgan, doedd y cyhoeddiad heddiw ddim yn sioc i’r ymgyrchwyr, er ei fod yn hir yn dod.

“Mae’r gwynt wedi bod yn chwythu’n gryf iawn i’n cyfeiriad ni ers mis Mawrth y llynedd,” meddai.

“Dyw hi ddim yn syndod o gwbl achos mae’r arwyddion rhyngwladol yn amlwg, ond bod trychineb niwclear Fukushima wedi amlygu’r peryglon yn ddiweddar.”

Dywedodd fod methiant cwmni Horizon i brynu tir fferm Cardegog ar y safle yn arwydd pellach na fyddai’r cynllun yn mynd rhagddo.

Dywedodd llefarydd ar ran Horizon wrth Golwg 360 mai “penderfyniad y ddwy fam-gwmni oedd peidio â bwrw mlaen”.

Dywedodd Horizon, sy’n fenter ar y cyd rhwng RWE npower ac E.ON, eu bod nhw wedi penderfynu atal y cynllun ar sail adolygiad strategol.

Mae RWE npower ac E.ON bellach yn ystyried gwerthu is-gwmni Horizon ymlaen i gonsortiwm neu fuddsoddwr newydd.

‘Hynod siomedig’

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Llywodraeth Cymru heddiw mai dod o hyd i brynwyr ar gyfer y safle fyddai eu blaenoriaeth nhw hefyd.

“Mae’r newyddion yn hynod siomedig. Mae’r Prif Weinidog wedi dweud mai Ynys Môn yw’r opsiwn gorau yn y Deyrnas Unedig ar gyfer datblygu niwclear.”

Dywedodd y Llywodraeth hefyd fod “diddordeb byw a sylweddol yn y safle,” ac mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi gofyn am “gefnogaeth llawn Llywodraeth San Steffan wrth i ni weithio gyda Horizon er mwyn sicrhau’r buddsoddiad hwn a sicrhau swyddi i weithwyr yn Wylfa yn y dyfodol”.

Ond mae elusen WWF Cymru wedi galw ar y Llywodraeth i ail-ystyried eu safbwynt heddiw, a gofyn iddyn nhw adfywio eu hymrwymiad i ynni adnewyddol.

“R’yn ni’n gobeithio y bydd y newyddion heddiw yn ysgogi Carwyn Jones i ail-ganolbwyntio ymdrechion ei Lywodraeth i gefnogi cynhyrchu ynni cynaliadwy, diogel a glan,” meddai llefarydd ar eu rhan.

“R’yn ni’n croesawu cyhoeddiad RWE ac EON eu bod nhw’n tynnu allan o’r datblygiad arfaethedig ar gyfer gorsaf niwclear Wylfa B. Mae’n ymddangos nad yw’r economics yn dal dŵr.”