Gorsaf niwclear
Mae undebau wedi dweud eu bod nhw’n pryderu am swyddi gweithwyr cwmni Horizon yn sgil y penderfyniad i beidio ag adeiladu Wylfa B.
Mae undeb Unite wedi annog Llywodraeth San Steffan i sicrhau bod y cynllun gwreiddiol yn mynd rhagddo er mwyn diogelu miloedd o swyddi medrus.
Roedd disgwyl i Horizon greu 5,000 o swyddi fyddai yn rhan o’r prosiect ar Ynys Môn, a buddsoddi £3 biliwn yn economi’r Deyrnas Unedig.
“Ni ddylai Llywodraeth San Steffan ganiatáu i’r prosiect hanfodol yma fethu oherwydd penderfyniadau a wnaethpwyd yn yr Almaen,” meddai Kevin Coyne, un o swyddogion Unite.
“Mae angen i Horizon lwyddo er lles ein hanghenion ynni a hefyd miloedd o swyddi.
“Rhaid i’r Llywodraeth wneud popeth o fewn eu gallu i ddod o hyd i brynwr allai gymryd rheolaeth o’r prosiect.”
Dywedodd undeb Prospect bod 120 o weithwyr oedd eisoes yn gyflogedig â Horizon yn wynebu dyfodol ansicr.
“Mae yna ddyfodol ansicr hefyd i bolisi ynni ehangach y Deyrnas Unedig,” meddai Mike Clancy , Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb.
“Rydyn ni’n wynebu cau sawl gorsaf ynni glo rhwng nawr a diwedd 2015. Roedd menter Horizon yn rhan hollbwysig o sicrhau darpariaeth egni Prydain yn y dyfodol.
“Heb fuddsoddiad newydd, fe fydd gan hyn effeithiau am ddegawdau i ddod, ymhell y tu hwnt i golli swyddi yn y tymor byr.
“Rydyn ni wedi gofyn am gyfarfodydd brys â’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd, yn ogystal â’r Adran Busnes.
“Fe fyddwn ni hefyd yn gweithio â grwpiau cymunedol er mwyn sicrhau cefnogaeth ar lefel lleol yn ogystal â chenedlaethol.”