Hywel Williams
Mae Plaid Cymru wedi gofyn am weithredu brys i arbed swyddi a gwasanaethau’r BBC ym Mangor heddiw.

Yn ôl Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams, mae’n rhaid cael cynllun i arbed y diwydiant cyfryngau yng Ngogledd Cymru ar unwaith.

Mae Hywel Williams yn dweud y bydd cynlluniau’r BBC i dorri uned gynhyrchu ranbarthol Gogledd Cymru ym Mangor yn arwain at golli swyddi ac yn bygwth cynrychiolaeth yr ardal yn genedlaethol.

Mae’r cynlluniau yn rhan o gynllun arbed y BBC, ‘Delivering Quality First’, sy’n bwriadu arbed £10.7 miliwn erbyn 2016/17 trwy dorri rhyw 120 o swyddi yng Nghymru.

“Mae hyn yn newyddion hynod o drist ac yn ergyd arall i ddiwydiant cyfryngau a theledu Gogledd Cymru,” meddai Hywel Williams.

“Yn y blynyddoedd diweddar rydym wedi gweld tranc a therfyn swyddfeydd Tinopolis yng Nghaernarfon, toriadau swyddi yn Antena a chau Barcud Derwen, y cwmni cyfleusterau teledu.

“Nid yn unig y bydd y cynlluniau niweidiol hyn yn arwain at ddiswyddiadau mewn ardal sydd eisoes yn dioddef o ganlyniad i doriadau’r Glymblaid yn Llundain, byddant hefyd yn cael effaith negyddol ar yr iaith.

Mae undeb y cyfryngau ac adloniant BECTU hefyd wedi dweud eu bod nhw’n “pryderu’n fawr ynglŷn â chynigion BBC.”

Yr undeb sydd wedi datgelu’r wybodaeth sy’n awgrymu y gallai uned ddarlledu’r BBC ym Mangor gau yn gyfangwbwl.

Ond dywedodd llefarydd ar ran y BBC wrth Golwg 360 heddiw nad oedd hynny’n wir. Dywedodd y BBC y byddai eu presenoldeb yn parhau ym Mangor er gwaetha’ rhai toriadau, ac nad oedd BECTU yn deall y sefyllfa’n llawn.

Yn ôl y datganiad gan BECTU, mae’r toriadau ym Mangor yn golygu bydd swyddi cynhyrchwyr ac ymchwilwyr yn cael eu rhoi yn y fantol.

Mae’r undeb yn dweud y bydd 18 swydd cynhyrchu ym Mangor a Chaerdydd yn cael eu torri i 14 cyn hir, bydd 18 swydd ymchwilydd ym Mangor a Chaerdydd yn cael eu torri i 12, a bydd un swydd Cynorthwyydd Cynhyrchu hefyd yn cael mynd.

Meddai llefarydd ar ran BBC Cymru Wales:

“Mae’r BBC wedi ymrwymo i gynnal ei chanolfannau ym Mangor a Wrecsam ac yn cydnabod y rôl bwysig y maent yn ei chwarae o ran portreadu ac adlewyrchu Cymru gyfan ar draws ei holl rhaglenni a gwasanaethau – yn Gymraeg ac yn Saesneg.

“O ganlyniad i gytundeb y ffi drwydded, mae’r BBC yn gorfod gwneud arbedion o 16% – £10.7 miliwn – dros y pum mlynedd nesaf. Trwy wneud arbedion mwy, rydyn ni’n disgwyl y gallwn gyfyngu lefel y cwtogi uniongyrchol i raglenni a chynnwys i 10% ar gyfartaledd, wrth ail-fuddsoddi mewn rhannau allweddol. Bydd yr arbedion hyn yn cael eu gwneud ar draws Cymru. Mae ymgynghori yn mynd rhagddo o ran y manylion – ond bydd ail-fuddsoddi a chyfleoedd newydd yn ogystal ag arbedion. Bydd BBC Cymru yn parhau i wneud a chomisiynu cynnwys radio a theledu yn, ac o, ogledd Cymru.”