Mae S4C wedi cyhoeddi heddiw na fydd aelodau tîm rheoli’r sianel yn derbyn rhai o’u hen fuddiannau o hyn ymlaen, wrth i’r sianel geisio torri costau.

Cyhoeddodd y Prif Weithredwr newydd, Ian Jones, heddiw fod tîm rheoli’r sianel wedi “gwirfoddoli i roi’r gorau i’w hawliau” dan ddau gynllun buddiannau gyda’r Sianel.

Mae’r camau hyn, medd S4C, yn rhan o’r ymdrechion i wneud “arbedion ariannol mewnol.”

Bydd hyn yn golygu na fydd tîm rheoli’r Sianel yn cael yr hawl i geir y cwmni ar ôl mis Medi eleni, ac y bydd eu hawl i yswiriant iechyd preifat gydag S4C yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn.

Datgelodd y Sianel wrth Golwg 360 heddiw y byddai cael gwared ar naw car y cwmni ar ei ben ei hun yn arbed “dros £50,000 y flwyddyn i S4C.”

Daw’r cyhoeddiad wrth i S4C geisio gwneud arbedion i ymdopi â thoriadau o 24% yn eu cyllideb dros y pedair blynedd nesaf.