Ymosodiad ar ysgol Iddewig yn Toulouse
Mae rhwydwaith deledu Al-Jazeera yn dweud eu bod nhw wedi derbyn ffilm o’r gyflafan yn Ffrainc ble cafodd saith o bobl eu lladd.

Yn ôl pennaeth swyddfa Al-Jazeera ym Mharis, Zied Tarrouche, mae’r ffilm yn dangos yr ymosodiadau mewn trefn gronolegol, gyda dau ymosodiad ar filwyr ac yna’r trydydd y tu allan i ysgol Iddewig. Mae’r delweddau wedi’u cymysgu gyda chaneuon crefyddol a datganiadau o’r Corán.

Yn ôl Zied Tarrouche mae llais y llofrudd a bloeddiadau’r bobl gafodd eu saethu i’w clywed yn y ffilm ond mae’r lleisiau’n aneglur.

Cafodd y dyn a oedd yn gyfrifol am y saethu, Mohamed Merah, ei ladd gan yr heddlu yr wythnos diwethaf ar ôl gwarchae 30 awr tu allan i’w fflat.

Dywedodd yr heddlu nad ydyn nhw am wneud sylw ar hyn o bryd ar ddilysrwydd y lluniau.