Fabrice Muamba
Mae myfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi cael ei garcharu heddiw, ar ôl iddo wneud sylwadau hiliol am y pêl-droediwr, Fabrice Muamba, wedi iddo ddioddef trawiad ar y galon yn ystod gêm.

Cafodd Liam Stacey, 21, ei garcharu am 56 diwrnod heddiw, wedi iddo gorddi’r dyfroedd gyda’i sylwadau hiliol am chwaraewr 23 oed Bolton Wanderers, ar ôl i’w galon stopio yn ystod gêm gwpan yn erbyn Tottenham Hotspur ar 17 Mawrth.

Derbyniodd yr heddlu lwyth o gwynion gan ddefnyddwyr Twitter yn sgil sylwadau’r myfyriwr, sy’n astudio bioleg ym Mhrifysgol Abertawe, cyn iddo gael ei arestio.

Tra’n ymddangos o flaen Llys Ynadon Abertawe yr wythnos ddiwethaf, fe gyfaddefodd y cyhuddiad o ysgogi casineb hiliol.

Roedd y neges gyntaf gan Liam Stacey ar ei gyfri Twitter yn dweud “LOL. **** Muamba. Mae wedi marw!!!”

Denodd ei sylwadau nifer o ymatebion chwyrn gan ddefnyddwyr Twitter – gan ysgogi rhagor o ymatebion sarhaus ganddo wedi eu hanelu at bobol oedd yn trydaru.

Diarddel

Mewn datganiad i Golwg 360 heddiw, dywedodd Prifysgol Abertawe fod Liam Stacey yn “dal i fod wedi’i ddiarddel o’r Brifysgol hyd nes y bydd ein proses ddisgyblu wedi dod i ben.’’

Mae Fabrice Muamba wedi dechrau gwella ond mae’n parhau yn yr uned ofal dwys yn yr ysbyty ac mae mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.