Mae swyddogion o Lywodraeth Libya wedi bod yn ymweld â Chymru yn ddiweddar er mwyn dysgu sut mae system addysg bellach Cymru yn gweithio.

Yr wythnos diwethaf, fe fu’r swyddogion, sy’n rhan o Lywodraeth newydd y wlad yng ngogledd Affrica, yn mynd ar daith o gwmpas rhai o golegau Cymru, yn asesu sut maen nhw’n ceisio gwella safon addysg a chreu cysylltiadau â’r gweithle.

Aeth cynrychiolwyr Gweinidogaeth Lafur Libya i ymweld â Choleg Sir Gâr, Coleg Llandrillo, Coleg Glannau Dyfrdwy, Coleg Gwent a Chaerdydd, cyn trafod safon, polisiau a systemau ariannu gyda ColegauCymru a Llywodraeth Cymru.

‘Codi safonau’

Wrth drafod yr ymweliad, dywedodd Khaled Elbaruni, o’r Weinidogaeth Lafur, fod cynrychiolwyr Llywodraeth Libya wedi gallu cael syniad o sut i “ganolbwyntio ar godi safonau a gwella rhagolygon cyflogaeth ein pobol ifanc,” meddai.

“Mae llawer iawn yn newid yn Libya. Mae gan gymunedau mwy o ryddid, ond r’yn ni’n dal i ddioddef o ddiffyg isadeiledd a datblygiad sgiliau,” meddai.

“Ein bwriad wrth ddod i Gymru oedd i adnabod ffactorau llwyddiant allweddol sy’n effeithio ar strategaethau, cynlluniau, polisiau a pherfformiad sefydliadau.

“R’yn ni’n mynd yn ôl i Libya gyda gwell dealltwriaeth o ddatblygu sgiliau o safon, a sut i’w defnyddio yn y farchnad lafur.

“Dwi’n gobeithio’n fawr y gallwn ni weithio gydag arbenigwyr yng Nghymru wrth i ni ddatblygu polisiau sy’n addas ar gyfer Libya, fydd yn helpu gwella sefyllfa pobol Libya,” meddai.

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, John Graystone, fod yr ymweliad yn dangos bod “safonau uchel colegau yng Nghymru” yn cael cydnabyddiaeth ryngwladol.