Mae dyn â “syniadau mawreddog o bwysigrwydd” wedi cael ei garcharu am 18 mis am ddynwared bargyfreithiwr mewn llys y goron ar ôl iddo wisgo wig a gŵn a chynrychioli ffrind a gwrddodd yn y carchar.

Fe lwyddodd David Evans, o Groes Cwrlwys, Caerdydd, i gerdded i mewn i Lys y Goron Plymouth wedi ei wisgo yng ngwisg swyddogol y llys, cael mynediad i ystafell newid yr eiriolwyr, ac ymweld â’i “gleient” yn ei gell – tra’n esgus bod yn fargyfreithiwr.

Ond cafodd y dyn 57 oed ei ddal wedi i farnwr ddarganfod anghysondebau yn ei ddillad, a chyfres o  gyflwyniadau cyfreithiol “hollol anghywir.”

Penderfynodd y rheithgor yn Llys y Goron Bryste yn unfrydol heddiw fod David Evans yn euog o wneud gweithgaredd cyfreithiol heb ganiatâd, ac esgus yn fwriadol i fod yn berson â hawl i gynulleidfa.

Cafodd David Evans ei garcharu am 18 mis gan yr Ustus Laura Cox, ar ôl clywed ei fod wedi ei gyhuddo yn y gorffennol am droseddau tebyg.

Rhwng 1978 a 2005 cafodd David Evans ei gyhuddo o 16 trosedd yn ymwneud â thwyll a dwyn.

Yn 2005, fe lwyddodd i gynnal wyth sesiwn ymgynghori gyda phedwar claf yn Ysbyty Wendale, ger Caerfyrddin, trwy esgus bod yn seiciatrydd clinigol. Roedd wedi cyflwyno CV i’r ysbyty yn dweud fod ganddo naw TGAU, gradd meistr mewn seicoleg, a’i fod wedi bod yn gweithio’n flaenorol gyda Chyngor Gogledd Dyfnaint.

“Roedd yr hyn a wnaethoch chi yn ddifrifol iawn, a beth sy’n rhagor yw’r ffaith fod y troseddau hyn yn waeth oherwydd eich euogfarn flaenorol yn 2005, wedi i chi honni ar gam eich bod yn seiciatrydd clinigol,” meddai’r Ustus Laura Cox.

Roedd David Evans dan glo yng ngharchar Dartmoor, ar ôl ennill arian trwy dwyll, pan gyfarfu â’r cynhyrchwr cannabis Terry Moss – cyn mynd ymlaen i’w gynrychioli yn ystod cyfres o wrandawiadau llys.

“Mae’r dystiolaeth yn dangos eich bod wedi ei fanipiwleiddio,” meddai’r Ustus Cox.

“Roedd cynllunio’r fenter hon yn ddyledus i chi’n unig, eich penderfyniad chi oedd esgus eich bod yn eiriolwr blaenllaw.

“Fe gymroch chi fantais ar Mr Moss, oedd yn credu eich bod chi’n berson diffuant,” meddai.

“Rydych chi’n ddyn cymhleth a deallus yn amlwg… mae  gennych chi syniadau mawreddog iawn o’ch pwysigrwydd eich hun.”