Mae disgwyl i un o bob tri baban sy’n cael ei eni eleni gyrraedd 100 oed, yn ôl adroddiad newydd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Tra bod disgwyl i 35% o fabanod gyrraedd y cant, dim on lleiafrif bach o bobl fydd yn troi 65 oed eleni a fydd yn derbyn telegram gan Balas Buckingham – 10% o ddynion ac 14% o wragedd yn ôl yr adroddiad.

Yn ystod 2012 mae disgwyl y bydd 826,000 o enedigaethau yng ngwledydd Prydain, 423,000 ohonyn nhw’n fechgyn a 403,000 yn ferched. Mae disgwyl i 32% o’r bechgyn fyw tan y flwyddyn 2112 a 39% o’r merched.

Mae pobl yn byw’n hŷn na’u cyndeidiau erbyn hyn. Yn 1961 dim ond tua 500 o wragedd oedd dros eu cant oed, ond mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif bydd 276,000 erbyn y flwyddyn 2060.