Mae S4C wedi cyhoeddi’r prynhawn yma pwy fydd y pedwar bydd yn gyfrifol am gynnwys newydd y sianel ar gyfer cyfnod newydd S4C.

Mae Sioned Roberts, Llion Iwan, Gwawr Lloyd a Gaynor Davies, wedi cael eu penodi ar gytundeb tair blynedd gyda’r Sianel i weithio dan arweiniad y Cyfarwyddwr Cynnwys newydd, Dafydd Rhys.

Bydd y pedwar yn gyfrifol am agweddau gwahanol ar gomisiynu rhaglenni ar gyfer y Sianel.

Daw’r penodiadau yn sgil newid y strwythur comisiynu o fewn S4C, ar ôl i’r Prif Weithredwr newydd, Ian Jones, ddechrau ar ei swydd ddiwedd Ionawr.

Bydd y drefn newydd yn golygu symud o’r hen system o wneud penderfyniadau comisiynu fel tîm at drefn lle bydd y Comisiynwyr unigol yn comisiynu cynnwys.

Dywedodd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C heddiw ei fod yn credu bod gan y tîm newydd y “ddawn, yr weledigaeth a’r profiad i greu amserlen amrywiol, uchelgeisiol a difyr a fydd yn apelio at y gynulleidfa ehangaf posib.”

Dywedodd hefyd fod ganddo ffydd y byddai’r tîm yn gallu mynd i’r afael â’r her i “gyrraedd defnyddwyr ar wahanol lwyfannau digidol” – gan ddatblygu ar yr amcanion y mae Ian Jones ei hun wedi eu gosod, a’r amcanion yn nogfen Gweledigaeth 2012.

“Mae’n gyfnod heriol a chyffrous,” meddai Ian Jones. “Rwy’n credu y gall y tîm hwn, trwy gydweithio gyda’r sector greadigol yng Nghymru a thu hwnt, ateb yr her a chomisiynu cynnwys dychmygus a chreadigol o’r safon uchaf.”