Bydd Ysgol Gynradd Ffynnonbedr yn Llanbedr Pont Steffan yn cau yfory (Dydd Gwener) o achos salwch sydd wedi effeithio ar 145 o’r disgyblion yno.

Roedd rhieni wedi derbyn llythyron ddoe yn dweud y bydd yr ysgol yn cau ddydd Gwener.

Ni fydd y plant yn dychwelyd nes dydd Mawrth gan fod diwrnod hyfforddiant mewn swydd ddydd Llun.

Mae 12 aelod o staff hefyd wedi eu heintio.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth Golwg 360 bod 145 o blant wedi’u heffeithio gan y salwch sy’n achosi dolur rhydd a chwydu.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Sir Ceredigion eu bod nhw’n ymchwilio i ddarganfod beth yw gwraidd yr haint.

Mae 368 o ddisgyblion a 56 o staff yn yr ysgol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi galw heddiw ar bob un i ddarparu sampl ar gyfer profion labordy.

“Ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn gwybod beth sydd wedi achosi’r salwch,” meddai Dr Jörg Hoffmann, ymgynghorydd ar reoli afiechydon Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Nid oes unrhyw un sydd wedi dioddef o’r symptomau wedi darparu sampl a dim ond ar ôl profi y bydd modd darganfod beth sydd wedi achosi’r haint.

“Does neb wedi gorfod mynd i’r ysbyty o ganlyniad i hyn. Serch hynny mae salwch gastroberfeddol yn gallu bod yn ddifrifol, yn enwedig mewn plant, felly mae’n bosib ein bod ni’n dod o hyd i darddiad yr haint.

“Mae’r rhieni wedi derbyn llythyr heddiw yn esbonio sut i gasglu sampl gan eu plant a sut i’w cyflwyno i gael eu profi.”

Dylai unrhyw un sy’n pryderu am eu hiechyd gysylltu â’u meddyg teulu neu Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru ar 0845 46 47.