Barcelona
Mae heddlu Sbaen wedi arestio dyn o Gymru heddiw ar ôl marwolaeth ei frawd yng nghyfraith yn Barcelona.

Mae David Keith Brennan, 49, o Gastell-nedd, yn cael ei ddal gan yr awdurdodau yn y ddinas ar ôl marwolaeth Stephen Storey, 47, sydd hefyd o Gastell-nedd.

“Rydyn ni’n gallu cadarnhau marwolaeth dyn o Brydain yn Barcelona ar 4 Chwefror,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor.

“Rydyn ni wedi rhoi gwybod i’r teulu ac yn darparu cymorth consylaidd.”

Dywedodd ei fod hefyd yn gallu cadarnhau bod dyn arall o Brydain wedi ei arestio a’u bod nhw’n darparu cymorth consylaidd iddo ef.

“Mae swyddogion consylaidd Barcelona wedi cysylltu â’r heddlu a’r awdurdodau lleol ynglŷn â’r achos.”