Warren Gatland
Mae Warren Gatland wedi gorchymyn i ranbarthau Cymru orffwys y chwaraewyr a oedd yn rhan o’r garfan a gipiodd y Gamp Lawn.

Fe e-bostiodd hyfforddwr Cymru’r Gleision, y Dreigiau, y Scarlets a’r Gweilch, lai na 24 awr a’r ôl i’r crysau cochion faeddu Ffrainc yn Stadiwm y Mileniwm.

Roedd yn annog iddynt feddwl dwywaith cyn defnyddio’r chwaraewyr yn ystod y gemau dros y penwythnos.

Mae Gatland hefyd wedi cwrdd â Phrif Weithredwr Rygbi Rhanbarthol Cymru, sef Stuart Gallacher, er mwyn trafod y mater.

Bydd y rhanbarthau yn awyddus i’w sêr i ddychwelyd i chwarae cyn gynted â phosibl ar ôl eu colli am gyfnod hir oherwydd Cwpan y Byd a Phencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae hyfforddwr Scarlets, Nigel Davies a hyfforddwyr Y Gleision ar y cyd sef Gareth Baber a Justin Burnell wedi datgelu y byddent yn asesu anghenion pob un o’r chwaraewyr cyn ei dewis.

Ond datgelodd hyfforddwr newydd Y Gweilch, Steve Tandy, ei bod yn bwriadu cynnwys Adam Jones, Alun Wyn Jones, Ian Evans, Ryan Jones a Paul James yn ei dîm.

‘‘Maent i gyd ar gael, ac fe fyddan nhw’n teithio i Leinster,’’ meddai Tandy.

Mae Gallacher wedi sôn am ei gyfarfod gyda Gatland yn amlinellu pryderon rheolaeth Cymru a’r rhanbarthau.

‘‘Rwyf wedi cwrdd â Warren i drafod y mater,” meddai Gallacher. “Mae Warren wedi bod yn hyfforddwr clwb ac yn deal y pwysau sydd ar y chwaraewyr a’r hyfforddwyr.

“Maent i gyd yn brofiadol, ac yn gwybod beth all y chwaraewyr ei gynnig iddyn nhw’r penwythnos yma.”