Caerdydd 2-2 Coventry

Collodd Caerdydd gyfle arall i godi’n ôl i safleoedd ail gyfle’r Bencampwriaeth gyda gêm gyfartal gartref yn erbyn Coventry nos Fercher. Roedd yr Adar Gleision ar y blaen ddwywaith yn Stadiwm Dinas Caerdydd ond tarodd yr ymwelwyr yn ôl gyda dwy gôl, yr ail o’r rheiny yn y pumed munud o amser a ganiateir am anafiadau.

Roedd y tîm cartref ar y blaen wedi 18 munud o chwarae wrth i chwaraewr Coventry, Cody MCDonald, wyro cic gornel Liam Lawrence i’w rwyd ei hun.

Cafodd Aron Gunnarsson gyfle i ddyblu’r fantais ddau funud cyn yr egwyl ond llwyddodd Joe Murphy yn y gôl i Goventry arbed ei gynnig wrth iddi aros yn 1-0 ar hanner amser.

Dechreuodd yr ymwelwyr yn well wedi’r egwyl a chawsant gyfle euraidd i unioni wedi dim ond pum munud o’r ail gyfnod pan ddyfarnwyd cic o’r smotyn iddynt. Cafodd Richard Keogh ei lorio yn y cwrt cosbi gan Gunnarsson ond taranodd Garry McSheffrey’r gic dros y trawst.

Ond fe wnaeth Coventry unioni’r sgôr wedi 69 munud ac yn haeddianol felly trwy gôl Jordan Clarke. Collodd Caerdydd y meddiant yn y cwrt cosbi ac anelodd Clarke y bêl yn isel heibio i David Marshall yn y gôl i Gaerdydd.

Roedd yr Adar Gleision yn meddwl eu bod wedi ennill y gêm eto saith munud o’r diwedd pan adferodd Peter Wittingham y fantais gyda gôl nodweddiadol o bellter.

Ond yn ôl y daeth Coventry eto ac yn hwyr hwyr yn y gêm fe dderbyniodd Oliver Norwood y bêl gan McSheffrey gyn ei hergydio’n galed ac yn gywir heibio i Marshall i ddwyn pwynt i’r ymwelwyr.

Ymateb

Byddai buddugoliaeth wedi codi Caerdydd i’r pedwerydd safle yn y Bencampwriaeth ond mae’r gêm gyfartal yn golygu eu bod yn aros allan o’r safleoedd ail gyfle yn yr wythfed safle.

Serch hynny, mae rheolwr yr Adar Gleision, Malky Mackay, yn parhau yn ddigon positif, dywedodd wrth y BBC:

“Rydym wedi colli unwaith mewn pum gêm ac oni bai am gôl yn y tri deg eiliad olaf fe fyddem wedi cael buddugoliaeth dda heno.”

Ond roedd chwaraewr canol cae Caerdydd a chyn chwaraewr Coventry, Aron Gunnarsson, yn fwy beirniadol o’i dîm. Dywedodd ef wrth wefan y clwb:

“Rhaid i ni ddysgu gorffen gemau, wnaethom ni ddim mo hynny heno ac rydym yn siomedig iawn. Rydym wedi siomi’r cefnogwyr, ond rhaid inni barhau i weithio’n galed wrth baratoi ar gyfer y gêm nesaf.”

Daw’r gêm honno oddi cartref yn erbyn Birmingham brynhawn Sul ac er y bydd hi’n gêm anodd iawn gall fod yn gêm hynod bwysig yn erbyn un o’r timau eraill sydd yn brwydro am y safleoedd ail gyfle.