Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru heddiw ei bod am roi £36,000 yn ychwanegol i gymdeithas sy’n cefnogi eisteddfodau lleol yng Nghymru.
Bydd y grant sy’n cael ei roi i Gymdeithas Eisteddfodau Cymru yn sicrhau y gall barhau i gefnogi a chydlynu gweithgareddau dros 100 o eisteddfodau lleol ledled Cymru.
Mae’r arian hwn yn ychwanegol at y £10,000 sydd wedi cael ei roi eisoes i’r Gymdeithas ar gyfer blwyddyn ariannol 2012-13.
Dywedodd y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, Leighton Andrews: “Dw i mor falch ein bod wedi gallu rhoi’r arian ychwanegol hwn i hybu’r gwaith pwysig mae Cymdeithas Eisteddfodau Cymru yn ei wneud i sicrhau llwyddiant eisteddfodau bach ledled Cymru.”
‘Datblygu’r iaith’
Ychwanegodd Leighton Andrews bod darparu gweithgareddau i bobl ifanc y tu allan i’r ysgol yn hanfodol os am ddatblygu’r iaith.
“Y mis nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn etifeddu rôl bwysig Bwrdd yr Iaith Gymraeg, sef hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg. Dw i wedi ymrwymo i barhau i weithio’n agos gyda’r prif randdeiliaid sy’n gallu cyfrannu at y gwaith o gyflawni’r dasg hon,” meddai.
Dywedodd Megan Jones, Cadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru: “Bydd yr arian yn galluogi’r Gymdeithas i gyflogi Staff Datblygu i hyrwyddo a chefnogi eisteddfodau yng Nghymru. Gan amlaf, gwirfoddolwyr sy’n rhedeg yr eisteddfodau hyn, ac maen nhw’n croesawu’r cymorth a’r cyngor y mae’r Gymdeithas yn eu cynnig.
“Bydd yr arian ychwanegol yn ein helpu i gryfhau’r bartneriaeth sy’n bodoli eisoes rhwng y gymdeithas a’r eisteddfodau.”