Mae newyddiadurwr  o Gaerfyrddin, a chydweithiwr iddo, sydd wedi bod yn yn ddalfa yn Libya am gael eu rhyddhau.

Mi wnaeth Gareth Montgomery-Johnson o Gaerfyrddin a Nicholas Davies-Jones o Berkshire gael eu cymryd i mewn i’r ddalfa gan filisia’r Misrata Brigade ar 22 Chwefror. Mi roedd y ddau wedi bod yn gweithio i’r cwmni darlledu o Iran, Press TV.

Mae Llywodraeth Libya wedi cadarnhau y bydd y ddau ddyn yn cael eu hanfon o’r wlad yfory. Roedd ofn y byddai’r ddau’n wynebu cyhuddiadau, ac roedd teulu Mr Montgomery-Johnson a grwpiau iawnderau dynol wedi bod yn lobïo i’r dynion gael eu trosglwyddo i’r awdurdodau yn Libya.