Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dyn 21 oed o Bontypridd mewn perthynas â sylwadau hiliol sarhaus a wnaethpwyd ar y safle rhwydweithio cymdeithasol Twitter.
Credir fod y sylwadau yn ymwneud â’r chwaraewr pêl-droed Fabrice Muamba sydd mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl cael ei gymryd yn wael ddoe yn y gêm Cwpan FA rhwng Bolton a Spurs.
Mae’r dyn yn y ddalfa yng Ngorsaf Heddlu Abertawe.
Does dim mwy o fanylion ar gael ar hyn o bryd.