Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Brendan Rogers, wedi dweud eu bod nhw’n byw’r freuddwyd yn dilyn eu llwyddiant ysgubol ddoe yn erbyn Fulham.

Fe enillodd yr Elyrch o dair gôl i ddim yn Craven Cottage, gyda Gylfi Sigurdsson yn sgorio dwy gôl, a Joe Allen yn sgorio’r drydedd.

Mae’r fuddugoliaeth wedi codi’r Elyrch i’r wythfed safle yn yr Uwch Gynghrair.

Mi ddywedodd Brendan Rogers fod ei dîm yn “anhygoel” ar ôl iddyn nhw lwyddo i atal eu gwrthwynebwyr rhag sgorio am y 12fed tro y tymor hwn. Mi alwodd hefyd arnyn nhw i “barhau i wella” er mwyn sicrhau eu lle ymysg y goreuon.