Cadeirlan Llanelwy
Mae Llanelwy ymhlith tair o drefi sydd wedi cael statws dinas i nodi Jiwbili Diemwnt y Frenhines.

Mae Chelmsford a Perth hefyd wedi cael statws dinas, yn ôl Llywodraeth San Steffan a wnaeth y cyhoeddiad heddiw.

Cafodd y tair eu dewis o blith 23 o drefi eraill ar draws y DU, gan gynnwys Wrecsam, oedd wedi cystadlu am y statws.

Cafodd awdurdodau lleol eu gwahodd y llynedd i gyflwyno cais am gael statws dinas i’w trefi.

Dyw’r statws newydd ddim yn golygu bod gan y dinasoedd unrhyw bwerau ychwanegol.