Angelika Dries-Jenkins
Clywodd Llys y Goron Abertawe heddiw sut y cafodd pensiynwraig ei “harteithio” er mwyn cael manylion ei chyfrif banc, cyn iddi gael ei churo i farwolaeth gan ddyn oedd eisiau’r arian er mwyn priodi ei ddyweddi.

Honnir bod Angelika Dries-Jenkins, 66 oed, o Arberth, Sir Benfro wedi cael ei churo i farwolaeth ar ôl cael ei gorfodi i roi manylion ei chyfrif banc i fab ei chymydog.

Roedd merch Angelika Dries-Jenkins, Eleanor, wedi darganfod corff ei mam ddeuddydd yn ddiweddarach ar ôl iddi alw draw i’w chartref.

Mae John William Mason, 54, yn gwadu ei llofruddio.

Priodi

Clywodd y rheithgor bod Mason yn bwriadu priodi ei ddyweddi Elaine Evans lai nag wythnos ar ôl y llofruddiaeth ar 1 Fehefin y llynedd. Ond gydag incwm o £100 bob pythefnos mewn budd-daliadau, roedd yn brin o arian.

Dywedodd Patrick Harrington QC ar ran yr erlyniad bod Mason, o bentref cyfagos Llandysilio, yn fab i un o gymdogion Angelika Dries-Jenkins, ac felly’n gyfarwydd iddi.

Fe “dwyllodd” ei ffordd i mewn i’w chartref ac ymosod arni’n syth, yn ôl  Patrick Harrington QC.

“Ei brif gymhelliad dros ladd y wraig yma oedd arian. Ar ôl ei churo i farwolaeth fe gymrodd ei bag. Does dim dwywaith ei fod wedi ei harteithio er mwyn ei gorfodi i ddatgelu ei rhif PIN,” meddai.

Roedd ei bag yn cynnwys ei cherdyn banc a’r allweddi i’w char Skoda Fabia yr oedd Mason hefyd wedi ei ddwyn.

Codi arian

Honnir bod Mason wedi gyrru i Hendy-gwyn ar Daf lle geisiodd godi £500 a £300 o beiriant twll yn y wal, ond ar ôl methu a gwneud hynny fe yrrodd i Hwlffordd lle lwyddodd i gael £200 o gyfrif Angelika Dries-Jenkins. Fe adawodd y car mewn maes parcio yn y dref.

Roedd yr heddlu wedi dod o hyd i siwmper Mason mewn bin sbwriel yn y maes parcio ar ôl astudio teledu cylch cyfyng o’r ardal. Clywodd y rheithgor bod DNA  Mason ac Angelika Dries-Jenkins ar y siwmper.

Yn ôl yr erlyniad, roedd llwyth o dystiolaeth oedd yn caniatáu i’r heddlu ddilyn symudiadau Mason ar ddiwrnod y llofruddiaeth, a hynny’n bennaf am ei fod yn gwisgo tag electroneg ar ôl iddo dderbyn gorchymyn cymunedol.

Dywedodd Patrick Harrington bod Mason wedi codi £250 bob dydd o gyfrif banc Angelika Dries-Jenkins yn ystod y tridiau yn dilyn ei llofruddiaeth.

Mae disgwyl i’r achos barhau am dair wythnos. Fe fydd y rheithgor yn ymweld â rhai o’r safleoedd yn gysylltiedig â’r achos yfory.