Mae adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw ar nifer y merched sydd ar fyrddau rheoli prif gwmniau Prydain yn dangos fod y canran o ferched yn cynyddu, ond mae’r nifer ymhell o gyrraedd y targed o 25%.
Yn ôl adroddiad blynyddol gan brifysgol Cranfield, sydd yn cadw golwg ar nifer y merched ar fyrddau cwmniau’r FTSE 100, mae’r nifer wedi cynyddu o 12.5% ym mis Mawrth 2011 i 15% eleni.
Ym mis Chwefror y llynedd paratodd yr Arglwydd Davies o Abersoch adroddiad ar gyfer Llywodraeth San Steffan ar amrywiaeth ar fyrddau’r cwmniau mawr, a dywedodd y dylid anelu at gael canran o 25% o ferched ar y byrddau rheoli erbyn 2015.
‘Gwaith mawr i’w wneud o hyd’
Dywedodd pennaeth y Bartneriaeth Sgiliau Ariannol, Liz Field, fod yna waith mawr i’w wneud o hyd er mwyn cael cydbwysedd ar y byrddau, “yn enwedig ar y lefel islaw yr un a adroddwyd arno yn adroddiad Cranfield”.
Ychwanegodd, “Byddai’n braf gweld y cwmniau’n dilyn ol troed y mwyaf blaengar yn eu plith, sydd nid yn unig yn monitro amrywiaeth ac yn teilwra rhaglenni datblygiad a mentora i ferched, ond hefyd yn mynd i’r afael â rhagfarn diarwybod.”