Mae rhai mamau yng Nghymru mewn perygl o gael eu gwthio i dlodi gan effaith y newidiadau i’r system fudd-daliadau, yn ôl ymchwil sy’n cael ei gyhoeddi gan Achub y Plant heddiw.

Yn ôl adroddiad yr elusen gall bron i 54,000 o famau sengl yng Nghymru sy’n gweithio ar incwm isel fod ar eu colled o gymaint â £68 yr wythnos o dan drefn y Credyd Cynhwysol newydd sy’n cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Prydain. Bydd hyn yn ddigon i wthio rhai o dan y llinell dlodi, medd Achub y Plant.

Dywed yr elusen y bydd y newidiadau hefyd yn effeithio’r rhai sydd yn dod ag ail incwm i’r aelwyd – merched, fel arfer – gyda rhai teuluoedd yn colli hyd at £1,800 y flwyddyn.

‘Ergyd drom i deuluoedd’

Dywedodd pennaeth Achub y Plant yng Nghymru, James Pritchard, fod yn rhaid i lywodraeth San Steffan ail-ystyried eu cynlluniau i ddiwygio’r system fudd-daliadau.

“Mewn cyfnod pan fo’r economi mewn cyni a thoriadau i’r gwasanaethau cyhoeddus bydd y newidiadau yma yn ergyd drom i deuluoedd ar hyd a lled Cymru. Wrth geisio newid y system fudd-daliadau mae’r Llywodraeth mewn perygl o gondemnio cenhedlaeth o blant Cymru i fywyd o dlodi.”

Mae Achub y Plant yn lansio’r ymgyrch Mamau Unedig yn ystod yr wythnos hon sy’n arwain at Sul y Mamau ac wrth i’r Canghellor George Osborne baratoi i gyflwyno ei Gyllideb ar 21 Mawrth. Mae’r elusen yn trefnu deiseb ar ei gwefan a fydd yn cael ei chyflwyno i George Osborne i fynegi pryder ynghylch effeithiau’r newidiadau lles.

Cost gofal plant

Mewn arolwg gan Achub y Plant a Netmums dywedodd 56% o famau di-waith yn y DU mai cost gofal plant oedd y prif reswm nad oeddynt yn gallu gweithio. Mae’r ymchwil hefyd yn awgrymu bod y newidiadau yn ei gwneud hi’n anoddach i famau symud oddi ar fudd-daliadau i chwilio am waith oherwydd diffyg cefnogaeth o ran gofal plant.

Ychwanegodd James Pritchard: “Roedd datganiad diweddar Llywodraeth Cymru ar y Mesur Diwygio Lles yn allweddol er mwyn anfon neges glir i San Steffan sut y bydd y newidiadau i’r system les yn effeithio Cymru – mae ein hymchwil yn tanlinellu y dylai canlyniadau hyn ar famau sy’n gweithio ffurfio rhan bwysig iawn o’r hafaliad.

“Ochr arall i’r geiniog yw sut y gall Llywodraeth Cymru chwarae ei rhan er mwyn lleihau’r baich ar famau drwy wneud yn siŵr fod gofal plant digonol ar gael iddynt. Amlinellodd eu datganiad polisi ar ofal plant yn 2011 y bwriad i wella’r ddarpariaeth gofal plant ar gyfer teuluoedd ar incwm isel yng Nghymru.

“Yn benodol dylai Llywodraeth Cymru edrych ar ffyrdd i amddiffyn, cynnal a datblygu’r ddarpariaeth sydd ar gael ar gyfer oriau ar-ôl-ysgol ac yn ystod y gwyliau er mwyn cefnogi mamau sengl a’r rhai sy’n dod ag ail incwm i’r aelwyd i allu gweithio mwy o oriau.

“Mae’n amser i roi geiriau ar waith neu bydd yn rhy hwyr i filoedd o blant yng Nghymru.”

Yn ôl Achub y Plant mae un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn dioddef o effeithiau tlodi, megis mynd heb bethau hanfodol a byw mewn cartref sy’n oer neu laith. Mae 15% o blant Cymru yn byw mewn tlodi difrifol medd yr elusen, sef y ganran uchaf o blith gwledydd y Deyrnas Gyfunol.