Mae’r heddlu wedi lansio apêl am wybodaeth yn dilyn lladrad arfog ar safle gwerthwr metel sgrap yng Nghaerffili bore ma.

Cafodd yr heddlu eu galw i GLJ Recycling ar stad ddiwydiannol Peynfan, Crymlyn tua 8.45am bore ma yn dilyn galwad brys 999.

Dywed Heddlu Gwent bod dau ddyn yn cario gynnau ac yn gwisgo balaclafas wedi cyrraedd y safle mewn car Vauxhall Astra llwyd ac wedi mynnu arian gan y staff.

Yn ôl yr heddlu fe lwyddodd y ddau i ddianc gyda “swm sylweddol o arian” cyn dianc yn y car.

Dywed yr heddlu na chafodd neb eu hanafu yn y digwyddiad.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555111.