Gwylio teledu ar y We
Mae’r ffilm dorfol gyntaf yn Gymraeg yn cael ei dangos heno mewn tafarn yng Nghaerfyrddin.
Mae Munud i Ddathlu, sy’n gyfuniad o ddegau o ffilmiau byrion gan unigolion, yn rhan o ddathliadau 50 mlynedd Cymdeithas yr Iaith. Gwahoddwyd y Gymdeithas gan y cyhoedd i anfon clipiau munud o hyd atyn nhw er mwyn cyfleu’r profiad o fod yn siaradwr Cymraeg.
Bydd y ffilm i’w gweld am y tro cyntaf heno yn y Golden Lion, Caerfyrddin, gyda darllediad dros y We nos Sul ar sianel deledu Cymdeithas yr Iaith, sianel62.com.
“Mae ’di bod yn brofiad a hanner cael cydlynu prosiect fel hyn a dw i’n hynod ddiolchgar am gymorth degau o bobl,” meddai cydlynydd y ffilm, Lleucu Meinir.
“Roedd e wir yn dod â deigryn i fy llygaid wrth weld yr holl ffilmiau yn dod i fewn. Bydd gwylio’r ffilm yn gwneud i Gymry Cymraeg deimlo’n falch iawn o fod yn Gymry”.
Mae’r ffilm yn cynnwys cyfraniadau gan y cerddor a’r bardd Dewi Pws, yn ogystal â’r awduron Dewi Prysor, Angharad Tomos a Dewi’r Ddafad.
Anwybodaeth am lwytho ffilmiau ar y We
Cafodd Lleucu Meinir syndod cyn lleied o siaradwyr Cymraeg oedd yn hyderus wrth wneud ffilmiau a’u llwytho nhw ar y We, gan ddweud ei fod wedi bod yn “sialens fawr” i ddod â’r ffilm at ei gilydd.
“Dw i’n gobeithio bydd y prosiect yn golygu bydd mwy o ddeunydd Cymraeg yn cael ei roi yn rheolaidd ar YouTube yn y dyfodol.”
Ar ôl y darllediad ar y We bydd Munud i Ddathlu yn mynd ar daith a chael ei ddangos yn Ysgol y Parc ger y Bala, Caernarfon, Aberystwyth a Bangor.
Pwt o’r ffilm…