Mae Heddlu’r De yn cynnal ymchwiliad ar ôl i wraig 96 oed farw yn dilyn digwyddiad mewn cartref gofal yng Nghaerdydd.

Cafodd yr heddlu eu galw i Dŷ Pontcanna ar Ffordd Llandaf, Treganna toc wedi 9.20am heddiw.

Bu farw’r ddynes yn y fan a’r lle ac mae’r heddlu’n ymchwilio i’w marwolaeth.

Cafodd aelod o staff hefyd eu hanafu yn y digwyddiad ac mae’n cael triniaeth yn yr ysbyty.

Mae teulu’r ddynes a’r crwner wedi cael eu hysbysu am ei marwolaeth.