Clare Wood
Mae disgwyl i’r Llywodraeth gyhoeddi cynllun peilot heddiw a fydd yn rhoi’r hawl i ferched ofyn i’r heddlu os oes gan eu partneriaid hanes o drais.

Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May ddatgelu y bydd y cynllun peilot – “Cyfraith Clare” – yn cael ei lansio mewn pedair ardal yng Nghymru, gan gynnwys Gwent, a Lloegr.

Mae’r cynllun yn ffrwyth ymgyrch i newid y gyfraith i ddiogelu merched rhag trais yn y cartref gan Michael Brown, tad merch  gafodd ei llofruddio gan ei phartner.

Cafodd Clare Wood ei thagu a’i rhoi ar dân gan ei chyn-bartner George Appleton yn ei chartref yn Salford ym mis Chwefror 2009.

Aeth Appleton ar ffo cyn crogi ei hun yn ddiweddarach.

Roedd Clare Wood, 36, oedd yn fam i un, wedi cwrdd â Appleton ar Facebook ac yn gwybod dim am ei hanes o ymddwyn yn dreisgar tuag at ferched.

Yn ystod ei chwest y llynedd, dywedodd y Crwner Jennifer Leeming y dylai merched mewn perthynas dreisgar gael yr hawl i wybod a oedd gan eu partneriaid hanes o drais.

Dywedodd Michael Brown y byddai ei ferch yn dal yn fyw petai hi wedi cael yr hawl i wybod am gefndir Appleton.

Beirniadaeth

Ond mae’r elusen Refuge, sy’n helpu merched sydd wedi dioddef trais yn y cartref, wedi beirniadu’r cynllun.

Dywedodd prif weithredwr Refuge Sandra Horley : “Mae’n annhebygol iawn ei bod hi (Clare Wood) wedi cael ei lladd am fod yr heddlu heb roi gwbod iddi am gefndir treisgar ei phartner. Mwy na thebyg, cafodd ei lladd am fod yr heddlu heb ymateb i’w galwad 999 am help,” meddai.

“Mae gan y cyhoedd eisoes yr hawl i ofyn, ac mae gan yr heddlu yr hawl i ryddhau gwybodaeth am gefndir partner.”