Mae’r awdur a’r ysgolhaig Heini Gruffudd wedi amddiffyn llyfr sy’n annog dysgwyr y Gymraeg i ddefnyddio ffurfiau llafar anghywir a geiriau Saesneg.

 “Mae’n ddigon hawdd i ni academyddion fynnu safonau uchel gan siaradwyr ond mae sawl cywair i’r iaith a mae’r rhan fwyaf o Gymry yn hapus yn siarad ar lefel dipyn symlach,” meddai Heini Gruffudd, awdur Live Welsh, mewn sgwrs gyda golwg360.

Dywed cyhoeddwyr Live Welsh, Y Lolfa, wrth frolio’r llyfr:

‘Dyma’r tro cyntaf i lyfr dysgu Cymraeg gydnabod sut caiff yr iaith ei siarad gan siaradwyr Cymraeg ledled y wlad – heb ferfau yn aml.’

Bu ymateb cymysg i’r llyfr, gyda rhai’n croesawu’r arddull sy’n cyflwyno Cymraeg bob-dydd, tra bod eraill yn bryderus ei fod yn hyrwyddo Cymraeg gwael.

Ychwanegodd Heini Gruffudd: “Mae’n hen bryd i ni sylweddoli fod Cymraeg pawb yn dda. Yr hen agweddau rhagfarnllyd sy’n dweud bod Cymraeg rhai pobl yn anghywir yw’r rheswm fod gan lawer o bobl ddiffyg hyder ynghylch siarad Cymraeg.

 “Fel pob iaith leiafrifol mae’r Gymraeg dan bwysau enbyd gan yr iaith fwyafrifol, a chanlyniad hyn yw bod ni’n benthyg geiriau ac yn addasu rhai eraill. Does dim byd newydd am hyn – fe fenthycion ni eiriau gan y Rhufeiniaid.”

Ychwanegodd Heini Gruffudd: “Does dim angen dysgu treigladau i ddysgwyr. Os ydych chi’n cyflwyno’r pethau anoddaf yn gyntaf yna ‘dyw’r dysgwr ddim yn mynd i barhau gyda’r dysgu.”

Strategaeth y Llywodraeth yn siom

Fel ymgyrchydd iaith blaenllaw, mynegodd Heini Gruffudd ei siom gyda Strategaeth Iaith newydd Llywodraeth Cymru.

“Does dim yn y strategaeth am dai, yr economi, a mewnfudo-allfudo. Os na aiff y Llywodraeth i’r afael â’r agweddau cymdeithasol ac economaidd hyn bydd y strategaeth yn methu.”