Mae cwmni Panasonic wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhoi’r gorau i gynhyrchu cyfnewidfeydd teleffôn yng Nghasnewydd.

Fe fydd 160 o bobl yn colli eu swyddi.

Yn ôl y cwmni, diffyg galw am y cynnyrch a marchnad fwy cystadleuol sy’n gyfrifol am y penderfyniad.

Bydd y gwaith oedd yn cael ei wneud yng Nghasnewydd yn cael ei symud i Fietnam.

Cadarnhaodd y cwmni y byddai 90 o swyddi yn aros yng Nghasnewydd er mwyn darparu gwasanaethau fel cefnogaeth technegol ac ati.

Mae’r ffatri ar agor ers 1987.