Caryl Parry Jones
Bydd rhaglen arbennig yn cael ei darlledu heno fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi S4C, sy’n addo rhoi blas ysgafn o Gymru 2012 i’r gynulleidfa, a rhoi cyfle i’r genedl chwerthin.
Mae’r gantores a’r gyfansoddwraig, y gyflwynwraig a’r gomediwraig yn dweud bod rhaglen llawn amrywiaeth yn disgwyl cynulleidfa S4C.
“Mae’n gymysgedd mawr o gerddoriaeth a sgetshis,” meddai Caryl Parry Jones wrth Golwg 360, gan ddatgelu bydd rhai o’r hen ffefrynnau a chreadigaethau newydd i’w gweld yn y rhaglen.
‘Hen ffefrynnau’
Rhai o’r hen ffefrynnau fydd yn dychwelyd i’r sgrin fydd cymeriadau fel Glenys, Lavinia ac Enfys o’r clasur o’r 1980au, ‘Ibiza! Ibiza!’
Ond fe fydd digon o gymeriadau newydd yn dod i’r sgrin hefyd, gan gynnwys y chwaraewr rygbi Cameron Jenkins, sydd eisoes wedi creu cryn enw iddo’i hun yn nodi ei gampau hyfforddi ar wefan Twitter, ar @CameronJenkins7, ac yn disgrifio’i hun fel “Chwaraewr rygbi rhyngwladol potentially chmod obviously.”
Mae’r syniad o ddynwared chwaraewr rygbi yn un hynod addas ar hyn o bryd, â Chymru yng nghanol twrnament Chwe Gwlad addawol iawn. Ond “cyd-ddigwyddiad pleserus iawn” oedd hynny, yn ôl Caryl Parry Jones, sydd wedi bod yn meddwl am y cymeriad hwn o hwntw ers tro.
Rygbi
“Dwi yn obsesd efo rygbi,” cyfaddefa Caryl Parry Jones, “mae’r bois yn arwyr i fi, ac maen nhw wedi dod yn fwy a mwy pwysig yng Nghymru yn ddiweddar.”
Un arall o’r cymeriadau newydd fydd Ffion Carlton Lewis, y ferch ysgol sy’n “siarad Cymraeg gwallus, ond mae hi’n siarad lot fawr o synnwyr am bethau dwys am lenyddiaeth Cymraeg, ond yn ei ffordd unigryw ei hun.”
Ac fe ddatgelodd Caryl Parry Jones wrth Golwg 360 efallai y byddai Ffion Carlton Lewis hefyd yn gwneud ymddangosiad yn y trydarfyd yn y dyfodol agos.
‘Braf cael neud o eto’
Yn ôl Caryl Parry Jones, mae hi wedi bod wrth ei bodd yn cael rhoi rhaglen fel hon at ei gilydd eto.
“Dwi di bod eisio gwneud ers dipyn,” cyfaddefa, ac roedd hi’n falch o fedru manteisio ar y cyfle.
“Mae’n neis ofnadwy neud y math yma o raglen eto, does neb arall yn neud o ar hyn o bryd, ac eleni fe ddaeth yr union gyfle.”
Albwm newydd
Ond mae’n dweud ei bod hi’n edrych ymlaen at gyflwyno’r caneuon newydd yn llawn gymaint â’r cymeriadau.
“Cerddoriaeth ydi ’nghariad cynta’ i wrth gwrs. Mae cerddoriaeth yn fath o beth mae’n rhaid i fi ei wneud, dyna yw’r prif beth yn ’y mywyd i,” meddai.
Mae Caryl Parry Jones wedi bod yn gweithio’n galed ar greu albwm newydd dros y misoedd diwethaf, a’r gobaith yw y bydd yn barod ar gyfer yr haf. Ond fe fydd cyfle i wylwyr gael blas bach ar y caneuon newydd yn ystod y rhaglen heno, wrth iddi berfformio un o’r traciau newydd.
“Dwi ’di bod yn gweithio ar yr albwm newydd ers tipyn ac mi roedd hi’n neis cael cyfle i ganu’r gân newydd ar y rhaglen, yn ogystal â’n hen ffefrynnau,” meddai.
Bydd y rhaglen ‘Noson yng Nghwmni Caryl Parry Jones’ yn cael ei darlledu heno ar S4C, am 8.25pm.