Mae’r newyddion fod yr heddlu yn ymchwilio i honiadau o anonestrwydd yng Nghymdeithas Leiafrfoedd Ethnig Cymru wedi cael croeso ar draws y gwrthbleidiau heddiw.

Y prynhawn ’ma fe gyhoeddodd Heddlu De Cymru eu bod wedi lansio ymchwiliad i honiadau o anonestrwydd ymhlith staff AWEMA.

Dywedodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar dreftadaeth Peter Black heddiw ei bod yn “gwbwl briodol bod yr heddlu yn ymchwilio i’r honiadau  o anonestrwydd yn erbyn yr elusen.

‘Agwedd ddi-hid’

“Roedd adroddiad yr ymchwiliad i weithgareddau ariannol AWEMA yn feirniadol iawn o agwedd ddi-hid yr elusen tuag at gyllid cyhoeddus,” meddai Peter Black.

Roedd yr elusen yn gyfrifol am brosiectau gwerth £8.4 miliwn, nes i’r arian gael ei atal yn llwyr ddechrau’r mis yn sgil adroddiad damniol iawn o weithgareddau mewnol yr elusen.

Mae’r elusen bellach wedi diswyddo dau o’u swyddogion mwyaf blaenllaw, y cyn-Brif Weithredwr, Naz Malik, a’u Cyfarwyddwr Cyllid, Saquib Zia.

‘Cwestiynau heb eu hateb’

Dywedodd Bethan Jenkins AC, Plaid Cymru, heddiw ei bod yn gobeithio y byddai’r ymchwiliad gan yr heddlu yn rhoi rhagor o atebion ynglyn â’r hyn ddigwyddodd yn AWEMA.

“Mae ’na lawer o gwestiynau o hyd sy’n dal heb eu hateb, a dwi’n mawr obeithio y bydd yr ymchiwiliad hwn yn eu hateb.

“Gallai sgandal AWEMA gael effaith pellgyrhaeddol. Mae’n bwysig ei fod yn cael ei ymchwilio’n llawn a bod y bobol iawn yn cael eu dal i gyfri, er mwyn adfer ein ffydd yn ein sefydliadau.”