Mae’r dirprwy weinidog amgylchedd wedi gwrthod addo iawndal i ffermwyr Cymru os bydd eu praidd yn cael eu heffeithio gan feirws Schmallenberg.
Wrth ymateb i gwestiynau brys ar y mater yn y Senedd heddiw, gwrthododd John Griffiths AC a chydnabod y byddai hyd yn oed yn ystyried iawndal i ffermwyr oedd â praidd wedi eu heffeithio â’r haint.
Dywedodd y dirprwy weinidog amgylchedd nad oedd hi’n “briodol i drafod materion ariannol na iawndal” ar hyn o bryd.
Pryder yn cynyddu
Daw ei sylwadau wedi i brif swyddog meddygol Cymru, Christianne Glossop, gadarnhau neithiwr fod profion am y feirws Schmallenberg bellach wedi cael eu cynnal ar anifeiliaid yng Nghymru.
Mynnodd y dirprwy wienidog amaeth heddiw nad oedd “unrhyw achosion wedi cael eu hadnabod yng Nghymru” hyd yn hyn, ond mae’r profion diweddaraf ar anifieiliad o Gymru yn cynyddu’r pryder bod y feirws wedi lledu.
Mae 83 o ffermydd bellach wedi eu heintio â feirws Schmallenberg yn Lloegr, yn ôl ffigyrau diweddaraf yr Asiantaeth Labordai Iechyd Anifeiliaid a Milfeddygaeth.
Mae’r feirws, sy’n achosi erthyliadau a geni ŵyn a lloi â nam, wedi cael ei ddarganfod mewn 78 o ddefaid, a phump o wartheg, mewn ffermydd ar draws de a dwyrain Lloegr hyd yn hyn.
Dywedodd John Griffiths AC fod gwaith yn mynd yn ei flaen i geisio dadansoddi “effaith y clefyd ar Gymru,” a bod ymgynhori ar sut i daclo’r clefyd yn cael ei wneud ar lefel “Ewrop gyfan.”
‘Dwy flynedd cyn daw brechlyn’
Wrth ymateb i gwesitynau’r gwrthbleidiau ar ba gamau yr oedd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r feirws, addawodd John Griffiths y byddai’r Llywodraeth yn “mynd i’r afael â’r sefyllfa wrth iddi ddatblygu.”
Ond fe ddatgelodd heddiw na fyddai’n bosib defnyddio unrhyw frechlyn i fynd i’r afael â’r broblem, fel a wnaed gydag achosion y gorffennol o glefyd y Tafod Glas, gan y byddai angen o leia’ dwy flynedd i ddatblygu brechlyn.
Dywedodd hefyd nad oedd difa anifeiliaid wedi eu heintio yn opsiwn yr oedd yn cael ei ystyried ar hyn o bryd, gan nad oedd “unrhyw dystiolaeth o drosglwyddo’r clefyd o anifail i anifail.”
Y gred yw bod yr haint wedi cyrraedd Prydain ar gefn gwybed o’r cyfandir yn ystod yr hydref y llynedd, pan oedd eisoes wedi effeithio ar anifeiliaid yn yr Almaen a’r Iseldiroedd.