Mae Oxfam Cymru wedi rhybuddio heddiw y gallai un ym mhob pedwar person yng Nhymru gael eu heffeithio gan newidiadau i’r mesur taliadau lles.
Daw’r rhybudd yn sgil cyhoeddi adroddiad newydd heddiw, sydd wedi ei lunio gan 17 elusen ac asiantaeth gwirfoddol sy’n delio â thlodi yng Nghymru.
Mae’r adroddiad, Gwylio’r Toriadau Cymru, yn datgelu y bydd bron bob un sy’n derbyn rhyw fath o daliadau lles ar hyn o bryd yn cael eu heffeithio gan y newidiadau sydd wedi eu cynnig i’r mesur taliadau lles.
Mae’r elusen hefyd yn rhybuddio mai’r mwyaf bregus fydd yn cael eu heffeithio waethaf – a phlant a’r anabl yn arbennig – wrth iddyn nhw wynebu ansicrwydd o ran incwm, a thoriadau sylweddol.
‘Ysgwyddo’r baich’
Mae Oxfam Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol i ysgwyddo peth o’r baich ariannnol ar y carfanau bregus hyn o gymdeithas.
Yn ôl yr elusen, mae’r grwpiau hyn eisoes wedi eu gwanhau gan y sefyllfa economaidd presennol, ac mae’r rhagolygon ar gyfer cael swyddi yn anobeithiol iawn.
Mae’r adroddiad wedi dadansoddi’r prif daliadau lles sy’n cael eu hawlio yng Nghymru, ac wedi dod i’r casglaid mai dim ond 5% o’r 180,000 o bobol sy’n hawlio taliadau lles oherwydd eu bod yn sâl neu’n anabl ar hyn o bryd fyddai’n dal i’w derbyn petai’r mesurau newydd yn cael eu derbyn.
Byddai’r gweddill, medd yr adroddiad, yn cael eu trosglwyddo i system taliadau lles sy’n gysylltiedig â gwaith, a byddai hwnnw’n cael ei fesur yn ôl incwm cyfartaledd y cartref.
Mae’r adroddiad hefyd yn dweud y bydd 1.2 miliwn o bobol hŷn yn colli allan ar rhwng £50 a £100 mewn taliadau tanwydd ar gyfer y gaeaf.
‘Effeithio cymdeithas gyfan’
Wrth drafod y newidiadau yn y mesur taliadau lles heddiw, dywedodd pennaeth Oxfam Cymru, Stephen Doughty, fod angen i’r Llywodraeth sylweddoli y byddai toriadau fel hyn yn cael effaith ar gymdeithas ar ei hyd.
“Mae miloedd o bobol sydd i’w gweld yn ymdopi ar hyn o bryd mewn gwirionedd yn gwegian ar y dibyn.
“Oherwydd y nifer fawr o bobol fyddai’n cael eu heffeithio gan sgil-effeithiau hyn, bydd llawer iawn mwy o bobol yn cael eu heffeithio na’r rheiny sy’n derbyn y taliadau lles yn uniongyrchol.
“Byddai effaith y toriadau ar ffrind, perthynas neu gwsmer yn siwr o gael sgil-effeithiau ar bron i bob ran o gymdeithas Cymru,” meddai.
Mae’r adroddiad nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru a llywodraethau lleol Cymru i weithio’n ddyfal i ddatblygu atebion er mwyn lleihau effeithiau gwaethaf y newidiadau ar Gymry.