Mae astudiaeth newydd gan seicolegwyr ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Rhydychen yn dangos bod hanner yr oedolion sy’n dioddef o iselder clinigol wedi cael eu pwl cyntaf o iselder yn ystod eu harddegau.

Yn ôl yr astudiaeth, yr oedran mwyaf cyffredin i bobl ddioddef o iselder am y tro cyntaf yw rhwng 13-15 mlwydd oed.

“Roedd iselder yn arfer bod yn broblem oedd yn taro am y tro cyntaf yn ystod canol oed,” meddai’r Athro Mark Williams o Brifysgol Rhydychen a arweiniodd yr astudiaeth gyda’r Athro Ian Russell a Rebecca Crane o Brifysgol Bangor.

“Ond yn ystod y degawdau diwethaf dechreuodd ymchwilwyr ganfod bod cleifion yn ieuengach ac ieuengach wrth gael eu pwl cyntaf o iselder, tuedd sydd wedi cyfrannu at wneud iselder yn un o’r problemau iechyd pwysicaf ar draws y byd’’.

Ymchwil

Roedd 275 o bobl wedi cymryd rhan yn yr astudiaeth, ac roedd pob un wedi dioddef sawl pwl o iselder. Yn yr ymchwil, a gyhoeddwyd y mis hwn yn y Journal of Affective Disorders, canfyddwyd bod 48% o’r cleifion hyn wedi dioddef y salwch am y tro cyntaf cyn eu 18 oed.

Ychwanegodd yr Athro Williams: “Mae’r canlyniadau hyn yn bwysig oherwydd bod iselder yn broblem sy’n tueddu i daro eto.  Os ydych wedi dioddef o iselder unwaith, yna mae siawns o tua 50:50 y byddwch yn dioddef o iselder eto. Os ydych wedi dioddef o iselder ddwywaith neu fwy, yna mae’r risg yn codi i 70-80%.”
Ymwybyddiaeth Ofalgar
Mae’r ymchwil yn cynnig llygedyn o obaith gan fod camau y gall pobl eu cymryd i atal iselder. Gall therapïau siarad fel therapi gwybyddol, neu cognitive therapy, reoli’r iselder cyn iddo droi’n broblem gydol oes, meddai’r adroddiad.

Dywed Dr Rebecca Crane o Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Bangor: “Mae patrymau andwyol o feddwl a theimlo yn cael eu sefydlu dros gyfnodau rheolaidd o iselder. Mae ymwybyddiaeth ofalgar ar sail therapi gwybyddol yn dysgu pobl i adnabod ac ymateb i’r patrymau hyn mewn ffyrdd newydd.”

Cynigir dosbarthiadau ymwybyddiaeth ofalgar i’r cyhoedd ym Mhrifysgol Bangor. Esboniodd Dr Crane:“Mae’r cyrsiau yn agored i bawb ac felly nid ydynt wedi’u hanelu’n benodol at bobl sy’n dioddef o iselder rheolaidd – ond maent yn datblygu’r sgiliau y mae ymchwil wedi dangos sy’n berthnasol i bobl sy’n agored i iselder.”