Ar drothwy dathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni, mae dysgwraig o Cheltenham wedi galw am gyflwyno mwy o wasanaethau twll yn y wal Cymraeg mewn trefi ar y ffin yn Lloegr.

Yn ôl Sharon Larkin, mae’n bwysig bod gwasanaeth dwyieithog ar gael y ddwy ochr i Glawdd Offa, er mwyn adlewyrchu’r ffaith nad yw’r iaith wedi ei chyfyngu i ffiniau swyddogol Cymru.

“Fel dysgwraig Cymraeg, mae’n fuddiol iawn i fi gael yr opsiwn o ddefnyddio’r Gymraeg i gael arian allan o’r twll yn y wal,” meddai.

Daw sylwadau Sharon Larkin wedi iddi ddarganfod fod cwmni Sainsbury’s yn darparu gwasanaeth Cymraeg yn eu twll yn y wal yng Nghaerloyw.

‘Rhoi dewis i gwsmeriaid’

Mae hi nawr wedi galw ar y cwmni i ymestyn eu gwasanaeth i fwy o drefi ar hyd y ffin gyda Chymru, gan gynnwys ei thref hi ei hun yn Cheltenham.

“Byddai’n help mawr gallu defnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd,” meddai, wrth siarad â Golwg 360 heddiw.

Dywedodd llefarydd ar ran Siansbury’s fod y cwmni yn darparu gwasanaeth Cymraeg yn y twll yn y wal mewn wyth o’u harchfarchnadoedd yn Lloegr ar hyn o bryd, gan gynnwys Bryste, Caer, Ellesmere Port, Caerloyw, Henffordd, Croesoswallt, Amwythig a Telford.

Wrth ymateb i alwadau Sharon Larkin heddiw, dywedodd llefarydd ar ran Banc Sainsbury’s wrth Golwg360 fod y cwmni yn “ymroddedig i gynnal y safonau uchaf o wasanaeth i’r cwsmeriaid, ac yn credu mewn rhoi dewis i’n cwsmeriaid.

“Gyda dros 20% o boblogaeth Cymru yn siarad eu hiaith frodorol, a gyda’r niferoedd yn dal i gynyddu, roedden ni eisiau darparu’r ddau ddewis iaith ym mhob twll yn y wal yng Nghymru, ac mewn trefi ar hyd y ffin,” meddai’r llefarydd.

‘Cadw’r Gymraeg yn iaith fyw’

“Dwi’n falch iawn os yw Sainsbury’s eisiau gwneud eu rhan i gadw’r Gymraeg yn iaith fyw,” meddai Sharon Larkin, sydd ag achau Cymreig yn ymestyn yn ôl i Lanidloes drwy ei thad, ac wedi olrhain hanes ei theulu mor bell yn ôl â 1680, pan oedd rhai o’i chyndeidiau yn byw yng Nghilcennin yng Ngheredigion.

“Roedd fy nhad yn Gymro,” meddai, “a dwi’n falch iawn o fy etifeddiaeth Gymraeg.

“Dwi wedi byw yn Cheltenham erioed, ond dwi’n teimlo’n fwy o Gymraes na Saesnes. Ac rwy’n cefnogi tîm rygbi Cymru bob tro!” meddai.

Ers chwe blynedd, mae hi wedi bod yn dilyn cwrs Cymraeg gyda Choleg Gwent, ac mae’n mynychu cyrsiau wythnosol yno.

Mae’n dweud bod llawer o bobol eraill o Fryste, Malvern, Cheltenham, Rhydychen a Birmingham yn dilyn yr un cwrs Cymraeg â hi yng Ngwent, ac y byddai twll yn y wal Cymraeg yn Lloegr yn help i bob un ohonyn nhw.