Un o bosteri diweddar Cymdeithas yr Iaith
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi disgrifio’r newydd am S4C yn darlledu rhaglenni telewerthu hwyr yn y Saesneg fel “cam mawr yn ôl” i’r sianel.

Fe fydd y gwasanaeth yn dechrau o nos Wener 4 Chwefror ymlaen ac eithrio’r nosweithiau pan mae’r Sianel yn darlledu sesiynau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, meddai S4C heddiw.

Eisoes, mae Cyfarwyddwr Polisi Corfforaethol a Masnachol S4C wedi dweud ei fod yn “ddyletswydd ar S4C ddenu incwm mewn gwahanol ffyrdd er mwyn diogelu’r gwasanaeth craidd i’n gwylwyr.”

“Mae S4C newydd gyhoeddi ei bod am fod yn Sianel uniaith Gymraeg,” meddai Menna Machreth ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg cyn dweud mai “dyma ddisgwyliadau pobl nawr.”

“Mae gorfod cyfaddawdu ar hynny i wneud elw ariannol yn anghywir.

“Ni fyddai S4C wedi meddwl am wneud hyn heb bwysau ariannol gan Lywodraeth Llundain.”