Kelvin Jones
Mae Heddlu’r Gogledd wedi llwyddo yn eu cais i gael 36 awr ychwanegol i holi pedwar o bobl ar amheuaeth o lofruddio dyn ym Mangor.

Cafwyd hyd i Kelvin Jones, 43 oed, mewn tŷ yn Sgwâr Britannia , Bangor yn ystod oriau mân bore dydd Sul.

Roedd Kelvin Jones yn dod o Ynys Môn yn wreiddiol ond yn byw yn Sgwâr Britannia.

Cafodd dau ddyn a dwy ddynes eu harestio ddydd Sul ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Dywedodd yr Arolygydd Simon Barrasford bod ymholiadau o dŷ i dŷ yn parhau a’u bod yn awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd neu a glywodd unrhyw beth amheus yn yr ardal. Dywedodd hefyd bod arbenigwyr fforensig yn dal i archwilio’r tŷ yn Sgwâr Britannia.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.