Ieuan Wyn Jones
Mae angen mwy o rymoedd ariannol ar Gymru er mwyn mynd i’r afael â’i phroblemau economaidd ei hun, yn ôl Plaid Cymru.

Wrth gyhoeddi eu hargymhellion i’r comisiwn sydd wedi ei benodi i edrych ar ddatganoli yng Nghymru heddiw, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, bod angen arbennig i Lywodraeth Cymru gael mwy o rymoedd dros gyllid.

“Trwy drosglwyddo pwerau i Lywodraeth Cymru mewn materion arainnol, fe fyddwn ni’n newid meddylfryd y Llywodraeth, gan ganiatau iddi gryfhau’r economi ac felly creu cyfoeth a swyddi.”

‘Rhwystredigaeth’

Dywedodd Ieuan Wyn Jones fod y diffyg grymoedd yn “rhwystredigaeth” ond bod angen ymateb i hynny.

“Mae angen gwneud Cymru yn fwy hunan-gynhaliol a mwy hunan-ddibynnol,” meddai.

Yn ôl Ieuan Wyn Jones byddai rhoi grymoedd ariannol yn nwylo Llywodraeth Cymru yn gwneud y Llywodraeth yn “fwy atebol am y ffordd mae’n gwario’r arain, ac yn gyfrifol am godi rhan sylweddol ohono.

“Ac fe fydd yn atal tuedd cynyddol Llywodraeth Cymru i roi’r bai ar San Steffan am yr holl ddrwg.”

Yr argymhellion

Bydd yr argymhellion hyn yn cael eu cyflwyno i’r Comisiwn Silk, sydd ar hyn o bryd yn edrych ar sefyllfa datganoli yng Nghymru.

Mae’r argymhellion yn rhoi pwyslais mawr ar roi grymoedd cyllido i Lywodraeth Cymru.

O ran treth incwm, mae Plaid yn dweud y dylai o leiaf hanner yr arian sy’n cael ei gasglu trwy dreth incwm yng Nghymru ddod yn ôl i Lywodraeth Cymru – ac fe ddylai Llywodraeth Cymru fedru osod graddfeydd treth incwm eu hunain.

Mae Plaid hefyd yn galw am ddychwelyd o leia’ hanner y Treth Ar Werth sy’n cael ei gasglu yng Nghymru gael ei ddychwelyd i Lywodraeth Cymru.

Dylai Llywodraeth Cymru hefyd gael yr hawl i godi a chyflwyno trethi newydd ym mhob maes sydd heb eu neilltuo yn benodol i San Steffan, meddai Plaid.

Ystadau’r Goron

Mae’r argymhellion hefyd yn adleisio galwad Leanne Wood yr wythnos ddiwethaf y dylid trosglwyddo perchnogaeth a rheolaeth dros Ystadau’r Goron yng Nghymru i Lywodraeth Cymru – “gan nad ydi Cymru wedi llawn elwa o’i hadnoddau ynni sylweddol.”

Mae Plaid yn dweud y dylid rhoi grymoedd benthyg i Lywodraeth Cymru, er mwyn gwneud buddsoddiadau fyddai’n cyfrannu at isadeiledd a chreu swyddi.

Ond mae’n nhw’n dweud y dylai trylowyder fod yn ganolbwynt i wella gwariant cyhoeddus yng Nghymru, ac y dylid darparu darlun cliriach o’r trethi sy’n cael eu casglu yng Nghymru.

Wrth gyflwyno’r argymhellion hyn heddiw, dywedodd Ieuan Wyn Jones ei bod hi’n rhyfeddod fod gan Lywodraeth Cymru gyllideb o £15 biliwn yn fylynyddol, “ond eto dim cyfrifoldeb dros godi incwm.”

Dywedodd y byddai rhoi’r cyrfifoldeb hwn ar Gymru yn “troi meddylfryd Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol i ganolbwyntio ar yr economi.”