Mae eglwys yng Ngheredgion wedi gwneud safiad yn erbyn atal menywod rhag cymryd rhan blaenllaw yn yr eglwys.

Mae Eglwys Llanbadarn yn Aberystwyth wedi gwrthod penodi ficer, ar ôl iddo ddatgan na fyddai’n gadael i fenywod weinyddu’r cymun yn ei eglwysi.

Mae Eglwys Llanbadarn wedi bod heb ficer ers bron i dair blynedd erbyn hyn, fel nifer fawr o eglwysi eraill yr ardal.

“Mae rhyw ddwsin o eglwysi yng ngogledd Ceredigion heb ficer ar hyn o bryd,” meddai’r Parchedig Ddiacon Enid Morgan, sy’n aelod o Eglwys Llanbadarn.

“Ac mae ’na brinder offeiriaid sy’n medru’r Gymraeg,” meddai.

Cymun

Roedd yr eglwys hanner ffordd trwy’r broses o apwyntio’r ficer newydd pan ddaeth i’r amlwg na fyddai’n fodlon i fenywod weinyddu’r cymun yn ei eglwys.

“R’yn ni wedi bod yn aros am dair blynedd am ficer,” meddai Enid Morgan, “a phan ddaeth y sôn bod rhywun wedi cael ei gynnig, r’on ni wrth ein bodd.”

Ond pan ddaeth hi i’r amlwg na fyddai’r ficer yn caniatau menywod i gymryd rhannau blaenllaw yn ei eglwys, fe benderfynodd y ddwy gynulleidfa yn yr eglwys – y gynulleidfa Gymraeg, a’r un Saesneg – nad oedden nhw’n fodlon derbyn y ficer.

‘Prinder mawr’

Mae’r penderfyniad wedi rhoi’r eglwys yn ôl mewn sefyllfa anodd, lle mae dod o hyd i offeiriaid sy’n medru’r Gymraeg, ar gyfer cynulleidfaoedd Cymru, wedi mynd yn anos yn ddiweddar.

“Mae ’na brinder mawr o offeiriaid sy’n medru’r Gymraeg,” meddai Enid Morgan.

“Yng ngogledd Ceredigion mae ’na ddwsin o eglwysi heb ficer ar hyn o bryd,” ychwanegodd.

‘Ar sail egwyddor’

Ond yn ôl Enid Morgan, sydd ei hun yn chwarae rhan blaenllaw yn yr eglwys, cafodd y penderfyniad ei wneud “ar sail egwyddor.”

“Roedd ysgwyd pen ac ochneidio o glywed na fyddai’r ficer yn derbyn menywod, a sawl un yn dweud ‘allwn ni ddim mynd nôl fyna’.”

Cyfaddefodd Enid Morgan y gallai’r sefyllfa wedi bod yn un “poenus iawn” iddi hi yn bersonol, ond fod penderfyniad aelodau’r eglwys yn “galondid mawr” iddi.

Mae’r eglwys yn dal i chwilio am ficer newydd.

Y ffrae

Mae dros pymtheg mlynedd wedi mynd heibio ers i’r fenyw gyntaf gael ei hordeinio i’r Eglwys yng Nghymru bellach, ond mae’r ffrae dros le menywod yn yr Eglwys yng Nghymru, ac ar draws y byd, yn dal i rygnu mlaen.

Y drafodaeth yn yr Eglwys yng Nghymru erbyn hyn yw a ddylid cyflwyno esgobion benywaidd.

Mae’r Eglwys yn Lloegr hefyd ar ganol trafodaeth ynglŷn â chyflwyno esgobion benywaidd. Mae disgwyl y gallai’r esgob benywaidd gyntaf gael ei phenodi i Eglwys Loegr erbyn 2014.

Yn ddiweddar, fe bleidleisiodd  Synod Cyffredinol Eglwys Loegr o blaid rhoi’r hawl i ddynion sydd wedi eu hordeinio i anwybyddu arweiniad esgobion benywaidd.

Wrth wraidd y ddadl y mae’r cwestiwn a ddylai rheolau’r Eglwys dderbyn bod rhai pobol yn gwrthwynebu rhoi lle blaenllaw i fenywod yn yr Eglwys.