Simon Weston
Mae’r cyn filwr Simon Weston wedi datgelu heddiw y bydd e’n herio cyn-Weinidog Cymru Alun Michael yn yr etholiad ar gyfer Comisiynydd Heddlu newydd De Cymru.

Wrth gyhoeddi ei fwriad i sefyll heddiw, dywedodd Simon Weston, 50, fod angen i mwy o bobol roi eu henwau ymlaen i sefyll yn  yr etholiad ar 15 Tachwedd, er mwyn atal “gwleidyddion oedrannus” rhag cymryd yr holl swyddi.

“Pam ddylai gwleidyddion fod â monopoli dros y swyddi?” gofynodd y Simon Weston, sy’n dad i dri o blant, heddiw.

“Mae ’na gymaint o bobol talentog  sydd heb gael cyfle i wneud eu rhan eto. Dwi’n mynd i sefyll fel ymgeisydd annibynnol gan fy mod i’n credu y galla’ i wneud cyfraniad a dod â rhywbeth gwahanol at y bwrdd.”

Cafodd Simon Weston ei losgi’n ddifrifol mewn ymosodiad bom yn ystod Rhyfel y Falklands ym Mehefin 1982.

Rol y Comisiynwyr

Bydd bob un o heddluoedd Cymru a Lloegr, heblaw Llundain, â Chomisiynydd Heddlu eu hunain erbyn diwedd y flwyddyn. Bydd y Comisiynwyr hyn â’r grym i gyflogi a diswyddo prif gwnstablau, a goruchwylio cyllidebau’r heddlu, ond fyddan nhw ddim yn gyfrifol am gynnal y gwasanaeth o ddydd i ddydd.

Ffrwyth cynlluniau’r Ceidwadwyr yw’r swyddi newydd hyn, gyda chyflog o £85,000 y flwyddyn, ac mae sawl un amlwg wedi awgrymu diddordeb yn y swydd.

Mae dau enw eisoes wedi eu crybwyll ar gyfer swydd Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, ac un ohonyn nhw’n fab i Alun Michael.

Dydi Elfyn Llwyd AS ddim wedi cadarnhau a fydd yn sefyll am y swydd eto, ond mae Tal Michael eisoes wedi ymddiswyddo o’i rôl fel Prif-Weithredwr Awdurdod Heddlu’r Gogledd er mwyn  sefyll yn yr etholiad am y swydd.