Dafydd Elis-Thomas
Mae’r ffaith mai dim ond tri ymgeisydd sydd yn y ras am arweinyddiaeth Plaid Cymru  erbyn hyn yn mynd i achosi “problem” i un o’r ymgeiswyr, yn ôl un sylwebydd gwleidyddol.

Wrth gyfeirio at yr ymgeisydd Dafydd Elis-Thomas dywedodd Gareth Hughes:  “Dw i yn meddwl ei fod yn dipyn o broblem iddo fo bod Simon Thomas wedi tynnu nôl. Mwya’n y byd oedd yn y cae, gorau i gyd oedd iddo fo  gael ail bleidlais. Nawr mae’r cae wedi cael ei gyfyngu dipyn a dydy o ddim o fantais iddo fo, dw i ddim yn credu,” meddai.

Yn ôl Gareth Hughes mae’r gwleidydd profiadol yn gobeithio ennill pleidleisiau fel yr ail ddewis gan fod y system i ethol arweinydd newydd Plaid Cymru yn system bleidlais amgen drosglwyddadwy – AV. Mae hyn yn golygu fod yr aelodau yn rhifo’r ymgeiswyr mewn trefn gan roi eu ffefryn yn gyntaf.

Ond dydy Gareth Hughes ddim yn credu bod hyn yn golygu na allai Dafydd Elis-Thomas gipio’r awenau.

Annibyniaeth

Wrth drafod annibyniaeth mae’r newyddiadurwr gwleidyddol yn dweud bod gan yr ymgeiswyr safbwynt gwahanol ar y pwnc.

“Mae Dafydd Elis-Thomas yn gyson. Dydy o ddim yn meddwl bod annibyniaeth yn bosib ac mae o wedi bod yn sôn am bethau fel ein bod ni yn rhan o Ewrop, bod Cymru yn wahanol i Loegr. Mae o yn mynd yn ôl i’r Canol Oesoedd weithiau i gyfiawnhau ei ddadl. A dyna ei safiad o dros y blynyddoedd.

“Wrth gwrs, mae Elin a Leanne yn dweud mai annibyniaeth ydy  nod Plaid Cymru. Mae nhw wedi gwneud hynny yn blwmp ac yn blaen. Mae Elin, yn ei hymgyrch, wedi dweud os ydach chi yn ethol dwy Lywodraeth Plaid Cymru, ar ôl hynny fe ddylai fod  refferendwm ar annibyniaeth, ac mae Leanne hefyd wedi dweud dylen ni gael annibyniaeth. Ond mae hi’n dweud bod yn rhaid i Gymru fod yn fwy hunangynhaliol.”

‘Nod y blaid’

Er ei fod yn cydnabod mai dim ond traean o gefnogwyr Plaid Cymru, a gafodd eu holi ar gyfer arolwg barn diweddar YouGov ar gyfer ITV, sydd eisiau annibyniaeth, mae’n dweud mai dyma yw nod y blaid.

“Yn y pendraw mae’n debyg mai dyna nod eu plaid nhw, mae o yn rhan o’r cyfansoddiad. Mae’n anodd iawn i unrhyw un arwain y blaid a ddim fod yn cydweld â’r nod sydd gan y blaid ei hun yn y pendraw.”

‘Gwleidydd deallus’

Ond mae’n teimlo fod sylwadau Dafydd Elis-Thomas ynghylch y pwnc yn rhai craff.

“Dw i’n meddwl bod Dafydd El yn dangos mewn un ystyr ei fod o’n wleidydd deallus, ac  sy’n deall na fedrwch chi redeg yn rhy bell o flaen beth mae’r boblogaeth ei hun eisiau.

“Mae yna ddau fath o wleidydd.  Mae yna wleidydd sydd yn dweud yr un fath â’r hyn mae Alex Salmond yn ei ddweud.  Dyma be ydan ni eisiau, dyma be ydan ni am wneud, rydan ni am greu y ddadl er mwyn i bobl yn y pendraw ein dilyn ni.

“Ac wedyn mae yna wleidydd fel Dafydd El sy’n cydnabod mai dyma beth mae pobl eisiau, dim pwynt  i ni fynd yn rhy bell o be mae pobl eisiau, mae hynny yn mynd i greu rhwyg rhwng gwleidyddion a’r cyhoedd a dydy hynny ddim yn beth iach i ddemocratiaeth.”