Mae Virgin Media wedi cadarnhau y  bydd yn creu tua 250 o swyddi newydd yn Abertawe.

Mae’r cwmni – sydd eisoes yn cyflogi 12,000 o bobol – yn dweud ei fod yn ehangu i gwrdd â’r galw cynyddol am eu gwasanaethau teledu a bandeang.

Mae cyfanswm o 620 o swyddi yn cael eu creu ar draws y DU gyda’r rhan fwyaf o’r staff yn Abertawe a Manceinion.

Dywed y cwmni eu bod yn chwilio am 500 o bobol ar gyfer eu canolfan alwadau a 120 i gael eu hyfforddi y beirianwyr.

Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe Chris Holley bod y cyhoeddiad am y swyddi yn “newyddion gwych” yn enwedig o ystyried yr hinsawdd economaidd.

Fe fydd y newyddion heddiw yn helpu i ddenu rhagor o fuddsoddiad, meddai.