Gardd Fotaneg Genedlaethol
Fe fydd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn cael arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, fe gyhoeddwyd heddiw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ariannu’r Gardd Fotaneg ger Llanarthne yn Sir Gaerfyrddin ers iddi bron â methdalu yn 2004 – pedair blynedd ar ôl iddi agor.

Y llynedd roedd y Llywodraeth wedi cyhoeddi pecyn o gymorth am dair blynedd – gyda £300,000 yn ychwanegol petai penaethiaid y safle yn cwrdd â thargedau arbennig.

Roedd yn cynnwys gwelliannau i gynllun busnes tymor hir y Gardd Fotaneg yn ogystal â safle we Gymraeg i ehangu ei apêl i ymwelwyr.

‘Potensial’

Dywedodd y Gweinidog Treftadaeth Huw Lewis heddiw bod y targedau wedi eu cyrraedd ac y byddai’r Gardd Fotaneg yn derbyn £270,000 gan Lywodraeth Cymru a £30,000 gan Gyngor Sir Caerfyrddin dros y ddwy flynedd  nesa.

Fe fydd yr arian ychwanegol yn golygu bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi £1.57 miliwn i ariannu’r Ardd Fotaneg dros gyfnod o dair blynedd rhwng 2011-2014.

Bu Huw Lewis AC yn cyfiawnhau’r gwariant gan ddweud bod gan y safle botensial masnachol yn ogystal â bod yn un o gyflogwyr mwyaf gorllewin Cymru.

Dywedodd bod y Gardd Fotaneg yn “chwarae rhan sylweddol yn economi leol Sir Caerfyrddin gan ddenu ymwelwyr i’r sir tra’n daprau swyddi i bobl leol.”