Rhydian Roberts
Bydd y cyflwynydd a’r actor Rhydian Roberts yn ymuno gyda miloedd o bobl i redeg y Sainsbury’s Sport Relief Mile yng Nghaerdydd ar Fawrth 25.

“Rwy wedi fy nghyffroi yn lan am gymryd rhan yn yr hwyl,” dywedodd Rhydian. “Rwy am i bawb yng Nghaerdydd ymuno gyda fi fel gall hwn fod y Sport Relief gorau erioed.”

Eleni fydd Milltir Caerdydd yn cael ei gynnal ym Mae Caerdydd, yn mynd heibio Plas Roald Dahl, Canolfan y Mileniwm ac adeilad enwog y Pierhead.

Bu 400 yn cymryd rhan y llynedd, gyda phobl Cymru yn codi dros £1m i Sport Relief. Ers hynny, cafodd tua £1.9m ei wario ar brosiectau lleol yng Nghymru.

Mae yna ddewis i redeg 1, 3 neu 6 milltir.

Os am gymryd rhan, ewch i www.sportrelief.com